Tair swydd yn y gorllewin

Ai chi fydd yn gyrru gwefannau bro newydd de Ceredigion yn eu blaen?

Lowri Jones
gan Lowri Jones
map-carthen-2
map-aeron-2

Mewn cwpwl o wythnosau, bydd gan bob cymuned yng Ngheredigion eu gwefan fro eu hunain!

Carthen360 – yn Nyffryn Teifi – yw’r wefan fwyaf newydd i ymuno gyda Caron360, Clonc360, BroAber360 ac Aeron360.

Mae gwefan ar ei ffordd i fro Sion Cwilt ac ardal Aberteifi hefyd.

I helpu hyn i ddigwydd, mae Bro360 yn awyddus i benodi:

Swyddogion Prosiect rhan-amser

Rydym yn chwilio am dri ‘person pobol’, i ysgogi unigolion, mudiadau a grwpiau lleol i gymryd rhan ac i gyfrannu at eu gwefan straeon lleol:

Swyddi rhan-amser yw’r rhain – yn ddelfrydol i bobol sydd eisiau jyglo’r jobyn o gwmpas ymrwymiadau eraill dros y 7 mis nesa ’ma.

Cysylltwch â Lowri Jones am ragor o wybodaeth (lowrijones@golwg.cymru) cyn y dyddiad cau ar 10 Mawrth.

Mwy o wybodaeth yma.