Tabernacl Pencader

Ysgol Sul

Haulwen Lewis
gan Haulwen Lewis
Plant Ysgol Sul Tabernacl Pencader yn mwynhau yn y parc yng nghastell Newydd Emlyn.

TABERNACL PENCADER

Bore Sul Mehefin 11eg teithiodd rhai aelodau Ysgol Sul Tabernacl Pencader i gapel Ebeneser Castell Newydd Emlyn i ymuno a’r plant yn y Gymanfa ganu dan arweiniad Mrs Carol Davies, Henllan.

Yn dilyn cymanfa’r bore aeth y plant i’r lle chwarae yng Nghastell Newydd Emlyn i gael picnic, ac i chwarae gyda’u gilydd ar y cyfarpar yn y tywydd heulog cynnes.