Straeon Steddfota Melin-y-Coed

Ymdrech cymuned i stopio’r pandemig rhag rhwystro 2021 i fod yn flwyddyn arbennig- Straeon Steddfota

gan Mostyn Rhys Lloyd Jones

Gyda’r pandemig yn dod ac eisteddfodau ar draws y wlad i stop, yn 2021 derbyniais wahoddiad gan y diweddar Anwen Hughes, Y Glyn, i fynd ati i greu fideo i ddathlu Eisteddfod Melin-y-Coed.

Gyda sôn am gyfarfodydd cerddorol mor bell yn ôl a 1887, a dim argyfwng wedi rhwystro’r eisteddfod ers y rhyfel byd diwethaf, oeddwn yn falch o gael helpu sicrhau bod ein traddodiad yn parhau.

Mae Cylchgrawn Dathlu Eglwys Bethel (M.C.) Melin-y-Coed 1827-1977 yn agor efo dyfyniad o Nehemeia 4:6 “Y mae gan y bobl galon i weithio”, a dyna wnaeth pob person a gyfrannodd at y prosiect.

Am bleser gesi.  Yn ogystal â chael clywed nifer o’r perfformiadau’n fyw, a blasu danteithion y dyffryn mewn sawl cartref, oeddwn weithiau yn crio chwerthin. Er enghraifft, pan ddysgais mewn un cyfweliad bod fy nain a dwy ffrind wedi tarfu ar yr eisteddfod blynyddoedd yn ôl drwy wagio argae!

Un sefyllfa annisgwyl oedd y gwaith paratoi ar gyfer ffilmio partïon canu Côr CantiLena. Oedd rhaid cwblhau asesiadau risg i allu canu yn y capel!

I fod yn deg, dros amser mae iechyd a diogelwch wedi dod yn fater pwysig i’r eisteddfod. Erbyn heddiw, nid oes angen trefnu presenoldeb yr heddlu, codi piano ar lwyfan uchel, symud planciau lled y capel yn oriau man y bore, na phoeni am daro pen wrth symud rhwng y festri a’r llwyfan!

Gallwch glywed y storiâu uchod, a llawer mwy drwy wylio’r fideo gorffenedig ar dudalen YouTube Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Dwi’n gobeithio fy mod i ac Anti Anwen wedi sicrhau bod 2021 yn flwyddyn i’w chofio. Nid gan fod y cystadlu wedi stopio, ond gan ein bod wedi llwyddo i greu ffynhonnell fodern llawn straeon steddfota ein cymuned.

Mostyn Jones, Ysgrifennydd Eisteddfod Melin-y-Coed