O Steddfod i Steddfod – o gadair i gadair!

Atgof gan Hannah Roberts ar gyfer Straeon Steddfota

Dw i’n enedigol o Drebo’th ar odre Cwm Tawe.

O’dd ’da ni ddigon o ddiwylliant, ond o’dd eisteddfode ddim yn un ohony’ nhw, dim ond eisteddfod blynyddol y capeli. O’n i’n eiddigeddus wrth glywed ffrindie o’r gorllewin yn sôn am eu Sadyrne, yn mynd o steddfod i steddfod!

Wel o’dd rhaid aros tan 2011 a finne bron yn 70 cyn jwmpo ar y wagen honno.

Un nosweth yn y flwyddyn honno, ethoi i’r gwely yn berson normal, a dihuno yn un o’r bobol od ma – sef bardd, ac ar Gymdeithas Eisteddfode Cymru ma’r bai!

Y bore hwnnw, gweles raglen Steddfod Bancffosfelen, cydiodd yr adran lenyddol ynof a dyma fi ffindo’n hunan yn gwitho telyneg am y tro cynta erio’d, ddim yn siŵr beth o’dd honno! A’r wobr yn gadair.

Rhyw bythefnos wedyn, da’th galwad ffôn, anghofiai fyth y wefr, o’n i wedi ennill fy nghadair gynta. Diolch i’r beirniad Tudur Hallam.

Dyna o’dd dechre’r belen eira.

O 2011 tan eleni, llwyddais i ennill cadair bob blwyddyn, dwy a thair yn ystod ambell flwyddyn, ac eleni, yn ’steddfod Brynberian yn ddiweddar, enillais gadair rhif 23 yn 2023.

Yn 2017 ces y dwbwl, coron Pontrhydfendigaid yn y prynhawn, a chadair Rhydlewis yn yr hwyr.

Mae’n gyment o bleser bob tro i gael mynd i’r gorllewin.

Bu croeso mawr ymhob steddfod, a diolch i’r trefnwyr diflino am eu gwaith ac i wneuthurwyr y cadeire cywrain, a’r ffrindie sy’n dod ’da fi’n gwmni.

Wetws rhywun bo’ chi byth yn unig pan ma papur a phensil ’da chi, a cherdd yn corddu – tw trŵ! ‘Dw i nawr yn aelod o dîm Y Gwenoliaid ar y Talwm, a bai Cymdeithas Eisteddfode Cymru yw hyn i gyd!

Pob lwc i’r chwarter canrif nesa, a DIOLCH!