‘Ma’ fe mor rhwydd a ’na?’

Wythnos arall fel ysgogydd gwefannau De Ceredigion!

gan Cerian Rees

Odi, mae e’n hawdd creu stori i’w rhoi ar eich gwefan fro! Dyna eiriau bois Ysgol Dihewyd ar ôl iddynt weithio gyda’i gilydd i gyflwyno stori ar Aeron360. Braf iawn oedd cael gweithio gyda chriw o fois ifanc oedd yn llawn straeon a chyffro.

Buon nhw’n rhan o fore lles yr ysgol cyn i mi ymweld â nhw, ac felly roedd syniad stori gyda ni yn syth! Roedd sôn am weithgareddau’r bore yn ganolbwynt i’r stori, yn ogystal â diolch i’w hathrawon. Gallwch weld y stori yma. Diolch yn fawr i chi bois am gydweithio mor dda, ac am gymryd y rôl o fod yn ohebydd Aeron360 dros yr ysgol.

Hefyd yn ystod yr wythnos, bues i draw i Neuadd Llechryd am fore coffi gyda siaradwyr newydd y Gymraeg. Profiad braf oedd cael dysgu am ddiddordebau’r dysgwyr, a’i hannog i gyfrannu stori.

Os ydych yn awyddus i mi ddod mewn i’ch ysgol neu fudiad i sôn am eich gwefan fro, anfonwch neges at cerianrees@golwg.cymru.