“Bydd pysgotwyr y Cwrwgl yn cwpla. A dwi’n credu mai dyna beth mae NRW eisiau,” medd Leighton Morgans, un sydd wedi bod yn pysgota cwrwgl ar Afon Tywi ers blynyddoedd.
Mae pysgota cwrwgl yn draddodiad sy’n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pysgota cwrwgl oedd y prif ffynhonnell incwm i deuluoedd tlawd oedd yn byw ar lan y Tywi. Ar un adeg, bu dau gant o gwryglau ar yr afon. Fodd bynnag, cafodd y nifer o drwyddedau net eu cyfyngu i ddeuddeg.
Profiad dau bysgotwr lleol
Mae Leighton Morgans a James Rees yn pysgota gyda chwrwgl ar y Tywi. Mae’r drwydded D8 wedi bod yn nheulu James Rees ers canrifoedd sy’n arwydd o barhad a thraddodiad teuluol na fydd eisiau ei golli.
Fel yn Aberteifi, mae’r safle yng Nghaerfyrddin wedi bod yn gollwng carthion i’r afon Tywi am ddegawd ac mae’n debyg fod hyn wedi cael effaith enfawr ar lefelau’r pysgod yn yr afon.
Yn ôl Leighton Morgans, “Does braidd dim pysgod wedi dod lan yr afon eleni achos llygredd Dŵr Cymru o’i safle yn Parc y Splotts. Maen nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Ma cymaint o garthion yn cael ei bwmpo i’r afon.”
Mae tymor y pysgotwyr yn para tri mis, o fis Mai i Orffennaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lleihau’r tymor pysgota o bum mis i dri. Serch hynny, mae cost y drwydded wedi aros yn union yr un peth, £600 y flwyddyn.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lleihau ein trwydded achos maen nhw’n meddwl taw ni sydd yn gyfrifol am brinder y pysgod,” medd Leighton Morgans. Mae’n honni mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am brinder y pysgod gan nid ydynt yn “gwneud eu gwaith o gymoni, glanhau a monitro’r afon.”
Pwy sydd ar fai?
Mae pysgotwyr fel Leighton Morgans a James Rees yn benderfynol mai Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru sydd ar fai am y llygredd sy’n cyrraedd yr afonydd. Maent yn honni mai Dŵr Cymru sydd yn gyfrifol am y ffaith eu bod yn gollwng y wast i’r afon o’i safle. Yn ôl Leighton, “mae bois y cwrwgl yn gweld beth mae Dŵr Cymru yn ei wneud. Maen nhw’n dod mas 24 awr ar ôl i’r carthion gael eu pwmpo mewn.”
“Fel mae pethau ar y funud mae’r cwrwglau’n mynd i ddod i ben yng Nghaerfyrddin cyn bo hir o achos beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn ei wneud.”
Ansicrwydd ynghylch dyfodol y cwrwgl
Mae dyfodol y cwrwgl mewn cyflwr bregus ac mae’n debyg bod anghytuno wedi bod ymhlith y pysgotwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru.
O ystyried yr hanes a’r etifeddiaeth honno sydd yn rhedeg yn nheulu’r pysgotwr James Rees hyd heddiw, byddai colli traddodiad y cwrwgl o achos y lefelau uchel o lygredd, yn golled arwyddocaol i dref Caerfyrddin a’i hunaniaeth.
Wrth edrych i’r dyfodol, ai ein cenhedlaeth ni sydd am fod yn gyfrifol am ddiflaniad y cwrwgl?
Rwyf wedi holi Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymateb i’r sefyllfa, ond heb glywed wrthynt hyd yn hyn.