Prysurdeb Diwrnod Casglu a Chreu ardal Aberteifi

Caffi Crwst yn gartref i syniadau cyffrous ar Ddydd Sadwrn y Pasg 

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20230408_105313
WhatsApp-Image-2023
20230408_103137

Casglu syniadau er mwyn gallu creu gwefan fro newydd i ardal Aberteifi oedd y nod ar ddydd Sadwrn y Pasg, wrth i Nico Dafydd osod ei ‘stondin’ mewn caffi prysur yn un o drefi mwyaf llewyrchus Ceredigion.

Doedd dim prinder syniadau.

Fe gasglwyd degau o syniadau am straeon lleol allai fod yn llenwi’r wefan fro. Fe fuodd pobol yr ardal yn greadigol hefyd, yn meddwl am enwau addas i’w platfform newydd, ac yn tynnu lluniau logos posib.

Roedd pawb a alwodd heibio yn edrych mlaen i weld eu hardal nhw’n ymuno â’r rhwydwaith o wefannau straeon lleol yn y sir.

Y peth wnaeth ysgogi trafodaeth oedd map, oedd â’r cwestiwn ‘ble yw eich bro?’ arno.

Yn ystod y dydd fe siapodd y map i ddangos ble’r oedd pobol yn ei ystyried yn fro naturiol i ardal Aberteifi – sef, fel mae’n digwydd, y darn o dir o Benbryn yn y gogledd, i Ben-y-bryn yn y de!

Y cam nesaf yw crynhoi grŵp lleol i benderfynu ar enw ar gyfer y wefan fro.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn rhoi hwb i’ch cymuned ymuno – cysylltwch â Nico Dafydd os hoffech gymryd rhan.

Mwy i ddod yn go glou!