Penwythnos gwych i Clonc360

Y prysurdeb yn ysbrydoliaeth i’r gwefannau bro i gyd

gan Cerian Rees

Am benwythnos! O weld chwaraewyr coetiau yn Llanybydder i ganu yn Eisteddfod RTJ yn Llanbed, mae’n edrych fel bod pobl Llanbedr Pont Steffan a’r cylch wedi cael penwythnos bisi a llwyddiannus tu hwnt.

Dechreuodd y penwythnos gyda blog byw o Eisteddfod RTJ Llanbed gan Ifan Meredith. Mae yna luniau a chanlyniadau o’r holl gystadlu, felly os nad oeddech chi yno, peidiwch â phoeni! Mae popeth ar Clonc360. Dywedodd Garry Owen, BBC Cymru, ar Twitter:

Da iawn Clonc360. Darpariaeth arbennig i rheiny ohonom oedd methu bod yn y steddfod. Pob lwc i bawb heddi.

Dywedodd Einir Ryder hefyd:

Ddim wedi gallu ymweld â’r Eisteddfod yn bersonol ond wir yn teimlo fy mod wedi gyda holl gyhoeddiadau Clonc360. Diolch i bawb a oedd ynghlwm.

Felly da iawn i chi gyd oedd yn rhan o’r blogiau byw yn ystod y penwythnos yn dod â’r eisteddfod leol yn fyw: Dydd Sadwrn, Dydd Llun, Celf a Chrefft, Llais Llwyfan Llanbed.

Beth yn y byd yw coets?

Ymlaen i gystadleuaeth coetiau yn Llanybydder oedd hi wedyn, a chafwyd stori gan Gwyneth Davies a oedd yn cynnwys fideos o bobl wahanol yn sôn am y gystadleuaeth. Esiampl wych o fedru cyfrannu at ei gwefan fro trwy gynnwys fideo.

Oes digwyddiad tebyg yn dod lan yn eich ardal chi? Beth am greu stori drwy gyfweld â rhywun ar glip fideo yn ystod y digwyddiad?

Carreg filltir

Tybed ai uchafbwynt y penwythnos oedd y ffaith bod Clonc360 bellach wedi cyhoeddi 2,000 stori? Y gyfres o gyfweliadau gan chwaraewyr coetiau oedd hynny. Diolch i Ifan Meredith am sgwennu stori yn tynnu sylw at y garreg filltir hon.

Tybed pa wefan fro fydd nesaf i gyrraedd ei 2,000fed stori?

Mae modd i chi greu bob math o stori ar eich gwefan fro. Pa ddigwyddiadau sy’n dod lan yn eich ardal chi? Oes modd creu blog byw, fideo, tynnu lluniau, stori ar ôl y digwyddiad?

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn ar sut mae creu stori… neu ewch amdani’n syth.