Un gwefan fro, 70 disgybl!

Sesiynau cyflwyno Carthen360 i ddisgyblion Ysgol Penboyr a Bro Teifi

gan Cerian Rees

Yn ystod yr wythnos, mae Carthen360 wedi cael ei gyflwyno i fwy o ddisgyblion cynradd ac uwchradd. Mae’n bwysig rhannu’r wefan fro gyda chriw blwyddyn 5/6 i fyny i’r chweched dosbarth, fel bod pobl ifanc yn teimlo fel bod ganddynt lais i rannu eu straeon.

Teimlad braf oedd hi i ymweld â dwy ysgol sydd yn llawn atgofion melys, gyda hyd yn oed llun o finne ac athrawon Ysgol Penboyr dal i fod ar wal y coridor ers 12 mlynedd! Roedd disgyblion Penboyr yn hoff iawn o’r syniad eu bod nhw’n gallu gweld straeon lleol, a rhannu’r rhai sydd yn bwysig iddyn nhw, fel Taith y Bererindod. Gofynnais iddyn nhw edrych ar luniau’r trip, gan feddwl am y stori tu ôl i’r lluniau, yn ogystal â’u teimladau yn y lluniau. A wap, roedd y stori ar Carthen360 yn syth!

Y diwrnod canlynol, ymweliad i Ysgol Bro Teifi oedd ar yr agenda. Braf oedd cael cyflwyno’r wefan i griw o flwyddyn 9 a 10, ac yna i’r chweched dosbarth. Cafodd sawl syniad stori ei drafod, felly dwi’n edrych ’mlaen cael gweld llawer ohonynt yn ymddangos ar Carthen360 yn yr wythnosau nesaf!

Diolch yn fawr i Ysgol Penboyr ac Ysgol Bro Teifi am y croeso. Ewch amdani!