Gohebydd bro buddugol wedi “gwneud peth syfrdanol” gyda’i straeon

Dylan Iorwerth fu’n cyhoeddi enillwyr Gwobrau Bro360 2023 mewn seremoni ar-lein

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Ifan Meredith

Casgliad o straeon diweddaraf Ifan Meredith ar ei wefan fro

Barn y Bobol

Stori fuddugol y categori ‘Barn y Bobol’, o Caron360

Ar ôl wythnos o bleidleisio, cyhoeddwyd mai stori Fflur Lawlor ar Caron360 sy’n ennill categori ‘Barn y Bobol’ Gwobrau Bro360 2023.

Stori o fis Awst oedd hi, oedd yn cynnwys fideos a lluniau o griw lleol o Dregaron yn mynd ati i adeiladu Cylch Cofio mas o gerrig mawr, i gofnodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref.

Yn ail yn y ras oedd Côr Dre yn barod i berfformio wedi dwy flynedd, sef stori Seiriol Dawes-Hughes ar Caernarfon360, a’r trydydd dewis yn y bleidlais gyhoeddus oedd Colli Cen Llwyd y gweinidog addfwyn, gan Dylan Lewis ar Clonc360.

Gohebydd ifanc addawol

Ifan Meredith, disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Bro Pedr, gipiodd y teitl Gohebydd Mwyaf Addawol, yn wobr am waith diflino yn sgwennu straeon lleol i’w wefan fro, Clonc360.

Cafodd ei ganmol gan y gohebydd profiadol Dylan Iorwerth mewn seremoni ar-lein ar nos Fawrth 31 Ionawr:

“Dwi di gweld lot o waith Ifan gan mod i’n byw yn ardal Clonc360, ac yn meddwl ei fod wedi gwneud peth syfrdanol – dwi’n siŵr bod cynghorwyr Cyngor Tref Llanbed wedi cael sioc ofnadwy pan welson nhw bod rhywun yn cymryd sylw o beth oedd yn digwydd yn y Cyngor ac yn gallu gwneud stori allan ohono fo.”

Wrth longyfarch yr enillwyr, aeth ymlaen i gydnabod gwaith gwerthfawr pawb sy’n rhoi o’u hamser i gyfrannu, a phwysigrwydd y gwaith hwnnw ar lawr gwlad:

“Dwi’n falch iawn o weld y math o ddeunydd sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Mae’r gwaith da chi i gyd yn ei wneud yn ofnadwy o bwysig, ac mae’r seremoni yma’n cydnabod pawb sydd wrthi’n cyfrannu at y gwefannau yma.”

“Mae bob stori fawr yn dechrau yn rhywle, ac fel arfer yn rhywle lleol. Felly y gwaith mae pobol fel chi’n ei wneud ar y gwefannau bro yw’r cam cynta a dweud y gwir tuag at y straeon sydd, yn y diwedd, yn cael sylw ar draws y byd a gan gyfryngau eraill.”

“Ond yn fwy na hynna, mae gwefan fro yn fwy na dim ond adrodd newyddion – mae gwefan fro yn rhan o weithgarwch cymuned hefyd, a thrwy hynny yn cyfrannu at y gwaith o dynnu bröydd at ei gilydd.”

Llongyfarchiadau – nid yn unig i’r enillwyr, ond i bawb gyfrannodd at gyhoeddi 1,500 a mwy o straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro yn 2022.

Gallwch wylio’r seremoni ar dudalen Facebook Bro360.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)