Bore Mercher y 13eg o Fedi, cafodd dosbarthiadau Cymraeg blwyddyn 12 a 13 Ysgol Gyfun Llangefni’r fraint anrhydeddus o glywed yr awdures boblogaidd a thoreithiog Bethan Gwanas yn trafod ei nofel newydd, Gladiatrix. Rhannodd gyngor doeth a gwerthfawr gyda ni am sut i ysgrifennu’n greadigol yn seiliedig ar ei phrofiad hi o ysgrifennu. Cawsom fewnwelediad i’w hysbrydoliaeth a’i phroses ysgrifennu, ac atebodd ein cwestiynau yn ystod dwyawr hynod ddifyr.
Mae Gladiatrix yn nofel am ddwy chwaer o Gymru yn Oes y Rhufeiniaid a’r Derwyddon. “Mi o’n i isio dwy gymeriad athletic, cryf” a dyma benderfynu ar yr enwau Rhiannon a Heledd. Roedd rhannau o Brydain yn rhan o’r Ymerodraeth Rufeinig, ac roedd Ynys Môn yn benodol yn her i’r Rhufeiniaid. “Sir Fôn oedd HQ y derwyddon”, meddai Bethan Gwanas, ac felly roedd yn angenrheidiol i’r Rhufeiniaid orchfygu’r ynys er mwyn cael rheolaeth dros lawer o Gymru. Oherwydd hyn, mae rhannau o’r llyfr wedi eu lleoli fwy neu lai ar ein stepan drws. Roedd yn hynod ddiddorol clywed am sut roedd yr awdures wedi defnyddio hanes yr ardal er mwyn ysgrifennu’r llyfr, megis y creiriau a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach. Ond, yn yr un modd, pwysleisiodd fod rhyddid i feddwl yn greadigol hefyd. Dywedodd Bethan Gwanas “Oherwydd bod ’na’m gwybodaeth bendant, roeddwn yn gallu defnyddio fy nychymyg.” Golygai hyn ei bod wedi gallu rhoi blas unigryw Cymreig i’r llyfr.
Yn ystod ail hanner yr ymweliad, cawsom y cyfle i gael sesiwn holi ac ateb gyda’r llenor. Diddorol oedd dysgu ei bod hi wedi cael ei hysbrydoliaeth ar gyfer y llyfr wrth wylio rhaglen ddogfen Warrior Women a gweld cerflun o ddwy ferch yn ymladd, gydag arysgrifiad yn dweud bod y ddwy wedi cael pardwn am eu bod wedi ymladd cystal. Esboniodd deitl y llyfr i ni – gladiatrix yw’r fersiwn lluosog benywaidd o’r gair Lladin ‘gladiator’. Hefyd cawsom gyngor llenyddol gan yr awdures. Trafododd sut oedd mynd ati i ysgrifennu stori, boed hynny drwy wneud cynllun neu beidio. “Os dwi’n sgwennu stori fel dwi’n mynd, mae’n lot mwy o hwyl ond da chi’n gwneud lot mwy o gamgymeriadau.” Pwysleisiodd fod y manylion bychain yn allweddol mewn llyfr – eu bod nhw’n helpu i liwio’r byd rydych yn ysgrifennu amdano. Er enghraifft, ceisiodd ddychmygu “Sut ogla oedd yn Sir Fôn ddwy fil o flynyddoedd yn ôl? Sut oedda ni’n gwisgo? Sut oedda ni’n cyfarch ein gilydd? Mae ‘na lot o betha’n y nofel ‘ma wedi chwalu ‘mhen i!”
Neges derfynol yr awdur i ni ac i holl ddisgyblion Môn oedd darllen – darllen yn aml, darllen i fwynhau, a darllen yn eang. Mae hi’n ein hannog ni’n arw i wneud defnydd o’n llyfrgelloedd lleol, ac i gychwyn trafodaethau am y llyfrau rydym wedi eu mwynhau, boed hynny gyda’n ffrindiau neu ar wefannau cymdeithasol. Yng ngeiriau Bethan Gwanas, “Diffodd dy ffôn a choda lyfr”.
Rydym i gyd yn hynod o ddiolchgar i Bethan Gwanas am roi o’i hamser i ymweld â ni i drafod ei nofel ddiweddaraf ac yn edrych ymlaen yn arw i’w darllen.