Oes gennych atgofion o steddfota?

Cyhoeddi cystadleuaeth arbennig i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn 25 oed

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Troeon trwstan… llwyddiant annisgwyl… cael CAM!

Tybed pa atgofion sy’n dod i’ch meddwl wrth gofio am eich cyfnod yn steddfota?

Pobol sy’n gwneud eisteddfod. Ac mae angen pob math o bobol wahanol mewn eisteddfod – yn gystadleuwyr, beirniaid, arweinyddion, ac wrth gwrs y rhai sy’n gwneud y te!

Eleni, i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Eisteddfodau y 25 oed, mae cystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd â Golwg i rannu eich atgofion o fynd o gwmpas yr eisteddfodau lleol.

Rhannwch eich atgofion chi yn y gystadleuaeth y mis yma, trwy sgwennu erthygl fer ar gyfer gwefan neu bapur bro.

Mae gwobrau ariannol i’r tri ar y brig (fel pob steddfod dda!) a’r dyddiad cau yw 31 Mawrth.

I gyflwyno eich atgof i’r gystadleuaeth bydd angen i chi ei osod ar wefan Bro360 neu eich gwefan fro (os ydych yn byw yng Ngheredigion neu Arfon). Dilynwch y camau bach syml yma:

  • Ewch i bro360.cymru ac Ymuno / Mewngofnodi
  • Creu > Stori
  • Dewis ‘straeon steddfota’
  • Sgwennu pennawd, cyflwyniad a thestun eich atgof
  • Pwyso + i ychwanegu llun(iau)
  • Pwyso ‘barod i’r gyhoeddi’ a ‘cyflwyno i’w gyhoeddi’

Bydd golygyddion Golwg yn beirniadu’r atgofion ac yn cyhoeddi’r enillwyr yn rhifyn 13 Ebrill o Golwg, a bydd yr holl atgofion yn cael eu cyhoeddi ar-lein bryd hynny hefyd.

Cyfle gwych i gofnodi rhan o’n diwylliant!

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)