Troeon trwstan… llwyddiant annisgwyl… cael CAM!
Tybed pa atgofion sy’n dod i’ch meddwl wrth gofio am eich cyfnod yn steddfota?
Pobol sy’n gwneud eisteddfod. Ac mae angen pob math o bobol wahanol mewn eisteddfod – yn gystadleuwyr, beirniaid, arweinyddion, ac wrth gwrs y rhai sy’n gwneud y te!
Eleni, i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Eisteddfodau y 25 oed, mae cystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd â Golwg i rannu eich atgofion o fynd o gwmpas yr eisteddfodau lleol.
Rhannwch eich atgofion chi yn y gystadleuaeth y mis yma, trwy sgwennu erthygl fer ar gyfer gwefan neu bapur bro.
Mae gwobrau ariannol i’r tri ar y brig (fel pob steddfod dda!) a’r dyddiad cau yw 31 Mawrth.
I gyflwyno eich atgof i’r gystadleuaeth bydd angen i chi ei osod ar wefan Bro360 neu eich gwefan fro (os ydych yn byw yng Ngheredigion neu Arfon). Dilynwch y camau bach syml yma:
- Ewch i bro360.cymru ac Ymuno / Mewngofnodi
- Creu > Stori
- Dewis ‘straeon steddfota’
- Sgwennu pennawd, cyflwyniad a thestun eich atgof
- Pwyso + i ychwanegu llun(iau)
- Pwyso ‘barod i’r gyhoeddi’ a ‘cyflwyno i’w gyhoeddi’
Bydd golygyddion Golwg yn beirniadu’r atgofion ac yn cyhoeddi’r enillwyr yn rhifyn 13 Ebrill o Golwg, a bydd yr holl atgofion yn cael eu cyhoeddi ar-lein bryd hynny hefyd.
Cyfle gwych i gofnodi rhan o’n diwylliant!