Yn galw pobl Dyffryn Teifi!

Ydych chi eisiau cymorth gyda’ch gwefan fro Carthen360?

gan Cerian Rees
Screenshot-2023-08-09-at-10.55.01Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre
digwyddiadau-Carthen360

Ar ddydd Gwener yr 11eg o Awst byddwn ni yn yr Amgueddfa Wlân rhwng 1 a 3 i drafod unrhyw beth yn ymwneud â gwefan fro Carthen360.

Oes gyda chi stori ddiddorol ond ddim yn gwybod sut mae cyfrannu ar Carthen360?

Ddim yn siŵr sut mae’r wefan yn gweithio?

Methu creu cyfrif ac eisiau cymorth?

Os chi’n ffansi sgwrs anffurfiol am y wefan, dewch draw i’r Amgueddfa! 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at cerianrees@golwg.cymru.