‘Ni’n enwog!’

Wythnos brysur gyda gwefannau bro Ceredigion

gan Cerian Rees

‘Ni’n enwog’, dyna eiriau disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Bro Siôn Cwilt ar ôl creu stori eu hunain ar Cwilt360, a’i gweld yn cael ei gyhoeddi ar eu gwefan fro.

Wythnos lwyddiannus sydd wedi bod yr wythnos hon i wefannau bro Ceredigion wrth i ni fynd at sawl lle i ledaenu’r neges. Ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Fehefin, bues i yng nghwmni rhai aelodau criw llywio Aeron360 yn Rali CFFI Ceredigion gyda stondin Bro360. Roedd hi’n ddiwrnod braf iawn wrth i ni gwrdd â sawl wyneb cyfarwydd, ac yn well byth, wynebau newydd! Wynebau newydd oedd yn awyddus i edrych ar eu gwefan fro a’i defnyddio.

Dyna beth sy’n grêt am ddigwyddiadau fel y rali. Mae’n rhoi’r cyfle i bobol nad sy’n ymwybodol o Bro360 ddod i ofyn cwestiwn, a’n gadael gyda rhyw egni newydd i gyfrannu eu stori nhw (a beiro ‘freebie’ wrth gwrs!) Diolch yn fawr i Mair Jones, Carys Mai ac Alwen Thomas am eich help yn ystod y dydd. A diolch hefyd i Lowri – hebddot ti byddai tent Bro360 yn dal i fod yn y bag!

Ymlaen i ddoe, dydd Mercher y 7fed o Fehefin, na beth oedd diwrnod! Yn y bore, bues i yng nghwmni criw hollol wych o Ysgol Bro Siôn Cwilt. I ddechrau, diolch yn fawr iawn i’r criw hynny wnaeth dangos diddordeb i ddod i greu stori. Penderfynodd y disgyblion eu bod am sgwennu stori am rywbeth oedd wedi bod ’mlaen gyda nhw ers rhai wythnosau bellach, sef plannu blodau haul.

Edrychom am luniau, a meddwl am beth yn union roedden nhw am sgwennu ar Cwilt360. Fe ddaeth y syniad o greu stori yn esbonio’r camau o blannu blodyn haul, ac fe weithiodd y plant yn wych gyda’i gilydd mewn grwpiau i ffurfio brawddegau. A whap, o’dd gyda ni stori! Y peth gorau o’r profiad oedd gweld cyffro’r disgyblion wrth i mi wasgu’r botwm ‘Cyhoeddi’.

‘Na beth oedd ffair! Pob un ohonynt gyda gwên ar eu hwyneb a theimlad o falchder mae’n siŵr. Yn sicr, ‘Ni’n enwog nawr!’ oedd y dyfyniad gorau o’r bore! Felly diolch yn fawr iawn i chi Ysgol Bro Siôn Cwilt, dwi’n edrych ymlaen at weld pa stori sydd i ddod nesaf…

Yna, yn y prynhawn, sesiwn tipyn yn wahanol cawsom yn Theatr Felin-fach. Buodd Lowri a fi yn ymweld â grŵp Hwyl a Hamdden i gynnal sesiwn defnyddio’r iPad iddyn nhw. Ond, ar ôl sylweddoli dim ond dros hanner ohonynt oedd yn defnyddio’r we, a llai ‘to yn defnyddio iPad, penderfynon ni wneud sesiwn ar gyflwyno Aeron360 iddynt. Braf oedd croesawu grŵp o ddysgwyr hefyd, wrth iddynt rannu eu straeon am ddysgu’r Gymraeg. Roedd presenoldeb y dysgwyr yn agor drysau’r sgwrs yn bendant!

Braf oedd cael trafod cryfderau gwefannau bro dros baned, a dod i ddysgu beth oedd yr henoed eisiau gweld ar eu gwefan fro. I lawer, roedd yn syndod iddynt ddysgu eu bod nhw’n gallu gweld straeon a newyddion ar y funud ar wefan fro.  Diwrnod llwyddiannus oedd hi felly, gyda phobl o wahanol oedrannau yn cael blas ar beth all Bro360 a’r holl wefannau bro cynnig iddyn nhw. Diolch eto i bawb, mae wastad yn bleser cael sgwrs wyneb yn wyneb i ddatblygu syniadau! Os chi ishe i fi ddod at eich mudiad/ysgol chi i gynnal sesiwn ar sut mae cyfrannu, cysylltwch â cerianrees@golwg.cymru.

Courtyard Illuminations and Dickensian Christmas

16:30, 13 Rhagfyr – 19:00, 23 Rhagfyr (Free for National Trust members, standard pricing for non-members)

Carol, Cerdd a Chân

19:00, 13 Rhagfyr (Rhoddion at Cymorth Cristnogol)