Eisteddfod yng Nghapel y Babell, Mynydd Epynt

Atgof gan Annabelle Thomas, Cefngorwydd, Llanwrtyd ar gyfer Straeon Steddfota

Capel-y-BabellAnnabelle Thomas

Capel y Babell, Epynt, wedi i’r fyddin gymryd berchnogaeth o’r mynydd.

Cyn yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd Eisteddfod fach yng Nghapel y Babell ar fynydd Epynt ac rwy’n cofio pan o’n i’n blentyn, aelodau’r teulu yn mynychu’r Eisteddfod honno.

Roedd llawer o bobl ifanc yn byw ar y ffermydd oedd yn bodoli ar fynydd Epynt ar y pryd ac fe fyddent yn cerdded i’r Eisteddfod mewn grŵp mawr gyda’i gilydd i’r Eisteddfod.

Ar y ffordd adref, roedd rhaid galw yn ‘Gwybedog’, lle roedd swper hwyr yn eu disgwyl wedi ei goginio gan Mrs Davies a bob blwyddyn byddai ‘Sparip’ (spare rib) ar y fwydlen. Roedd hi’n amlwg bod diwrnod lladd mochyn newydd fod.  Roedd y swper yn tu hwnt o flasus, mae’n debyg.

Y Parch William Jones, Pentrefelin oedd gweinidog Capel y Babell ac ef, fel un o’r arweinyddion yr Eisteddfod, oedd yn gorfod cadw trefn.

Cofiaf un flwyddyn mai un o’r tasgau gosod oedd cyfansoddi brawddeg yn dechrau gyda’r llythyren ‘B’.  A dyma un cynnig a ddaeth i law:

‘Bwytodd Buwch Brynmaharen Bais Binc Betsi Brynmelyn Bron Bob Bripsyn Bach!’

Roedd ‘Brynmaharen’ a ‘Brynmelyn’ yn enwau ar ffermydd ar Epynt ac roedd yna ‘Betsi’ yn byw ym Mrynmelyn yn y cyfnod.

Wedi i’r fyddin gymryd perchnogaeth o fynydd Epynt yn yr 1940au, daeth yr Eisteddfod yng Nghapel y Babell i ben, wrth gwrs.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)