Dros Dro a’u halbwm cyntaf yn bwrw’r nodau uchaf

Sdim Byd Gwell na’r band newydd o Sir Gâr

gan Gwenno Roberts
Dros Dro - Gwyl Canol Dre

Yn ddiweddar, mae band ifanc Dros Dro wedi rhyddhau ei albwm cyntaf Byth yn Gytûn.

Criw lleol o Sir Gâr ydy’r aelodau – Efa, Gruff, Celt, Iago, Iestyn a Bryn – ac mae pob un ohonyn nhw’n ddisgyblion neu’n gyn-ddisgyblion yn ysgolion Maes y Gwendraeth a Bro Myrddin.

Aeth y band ati i recordio yn ôl ym mis Medi gyda StudiOwz. Mis wedi rhyddhau’r sengl gyntaf ‘Dos i dy Gastell’, mae’r gân wedi cael ei ffrydio bron i 4,000 o weithiau erbyn hyn, gyda gweddill traciau’r albwm yn profi’r un llwyddiant.

Yn ôl Efa, un o brif gantorion y band, “gaethon ni sioc o faint o bobl oedd wedi mynd i wrando arno fe, oni jyst yn meddwl mai ffrindie agos ni fydde fe”.

“Sdim Byd Gwell”

Cafodd y band ei ffurfio yn ôl ym mis Mehefin 2022 ar gyfer gig a drefnwyd gan Fforwm Ieuenctid Gorllewin Myrddin ar y cyd â Pyst. Roedd y gig wedi’i gynnal yn Cwrw, Caerfyrddin a daeth tua 100 o bobl, hen ac ifanc, i gefnogi eu début.

Ers hynny, mae’r band wedi’i weld ar sawl llwyfan yn cefnogi artistiaid megis Gwilym, Fleur de Lys a Baldande.

Llwyddodd y band i ennill Gwobr Goffa Richard a Wyn eleni. Roedd y gystadleuaeth yn agored i fandiau ifanc newydd o Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Geredigion a’r beirniaid oedd Elidyr Glyn a dau aelod arall o fand Ail Symudiad. Enillodd y band wobr ariannol yn ogystal â’r cyfle i berfformio ar lwyfan Gŵyl fel na Mai.

“Enw un o’n caneuon ni yw ‘Sdim Byd Gwell’ sydd yn sôn am berfformio ar lwyfan. Ni’n rili gyffrous pan fyddwn ni’n canu ‘Dos i dy Gastell’ yn fyw achos ma eitha lot o bobl yn gwybod e, a bydd hwnna’n mynd â’r profiad o berfformio ar lwyfan to the next level” oedd geiriau Efa.

Bu’r band yn rhan o brosiect plethu yr Urdd eleni, gan gydweithio gyda’r cerddor Lewys Wyn i greu trefniant newydd o Sosban Fach. Cafodd yr addasiad ei ysbrydoli gan waith tun Tinopolis ac felly aeth cwmni Tarian ati i greu cit drymiau allan o sosbenni yn arbennig ar gyfer y band. Yn dilyn hyn, cawson nhw gyfle i’w pherfformio yn fyw ar brif lwyfan Gŵyl Triban.

O nerth i nerth

Mae llwyddiant y band lleol yma’n adlewyrchiad o sîn gynyddol cerddoriaeth Gymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cyhoeddodd y Llywodraeth bod 70 albwm a 140 sengl Gymraeg wedi’u rhyddhau dros y 12 mis diwethaf, gan dorri tir newydd ym myd cerddoriaeth Gymraeg, sy’n “adfywiad diwylliannol” yn ôl rhai.

Mae cerddoriaeth yn cael ei weld fel ffordd o uno pobl, yn enwedig fel cenedl Gymreig, ac nid yw’r band yma’n eithriad.

Dywedodd Efa, “Ni’n sgwennu caneuon Cymraeg falle ‘ma pobl ifanc oedran ni yn gallu uniaethu gyda nhw, ‘ma bob un â lyrics sy’n dweud stori”.

Dyma ddechrau llwyddiannus i’r band, ond dim ond megis dechrau maen nhw.

I fwynhau eu caneuon, dilynwch eu cyfrifon cymdeithasol:

@DrosDro | Twitter, Instagram, Facebook | Linktree