gan
Donna Wyn Thomas
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/3/2023/04/Pel-droed-bechgyn-640x396.jpeg?0)
Ar ddydd Mawrth y 18fed o Ebrill, cawson ni fechgyn o flynyddoedd 5 a 6 ddiwrnod o daclo a brwydro wrth chwarae pêl-droed yng nghystadleuaeth yr Urdd i ysgolion Ceredigion.
Cawson ni gyfle i chwarae yn erbyn ysgolion Llanilar, Bro Pedr a Phlascrug. Er na chawson ni lwyddiant, cawsom ddiwrnod wrth ein boddau! Diolch i Miss Cerys Evans a Miss Gwawr am ein hyfforddi.