Darlledwyr y dyfodol

Ydach chi erioed wedi breuddwydio am fod yn ohebydd pêl-droed?

Owain Llŷr
gan Owain Llŷr

Ydach chi erioed wedi breuddwydio am fod yn ohebydd pêl-droed?

Yn ddiweddar, bu pobl ifanc ardal Gwynedd a Môn yn gwneud yn union hynny!

Cafodd y criw lwcus ddiwrnod o ohebu mewn gem bêl-droed, a hynny gyda chwmni ffilmio proffesiynnol.

Cae yr Oval yn Nghaernarfon oedd y lleoliad, a Caernarfon yn erbyn Pontypridd oedd y gêm fawr.

O ddysgu sgiliau meicroffon a holi, i ddefnyddio camerâu, bu’r darlledwyr ifanc yn dysgu sgiliau newydd o bob math, dan orychwyliaeth Owain Llyr a Mark Back o gwmni Gweledigaeth.

Roedd cyfle hefyd i weld gohebwyr tîm Sgorio S4C wrth eu gwaith, a dysgu mwy am yr hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni, wrth fynd ati i roi darllediad byw at ei gilydd.