Dala lan gyda’r datblygiadau – sesiynau hyfforddiant Bro360

Cyfres o sesiynau ar-lein ar greu straeon lleol, golygu testun a blogio’n fyw

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20230210_144137

Ydy, mae technoleg yn newid drwy’r amser – weithiau’n gynt nag y byddan ni’n dymuno!

Ond mae bröydd yn newid hefyd – ac weithiau mae hynny er gwell.

Croeso, Carthen360!

Yr wythnos yma rydyn ni’n croesawu 10fed gwefan fro i rwydwaith 360. Mae carthen360.cymru bellach yn fyw ac yn blatfform i bawb sy’n byw yn Nyffryn Teifi ei ddefnyddio i rannu straeon, fideos a hyrwyddo digwyddiadau lleol.

Os ydych chi’n ’nabod pobol o’r ardal, cofiwch eu hannog i ymuno â’u gwefan fro newydd!

Helo i’r egylchlythyron

Mae pawb sy’n aelod o’u gwefan fro bellach yn cael egylchlythyr bob pythefnos, yn rhoi gwybod be sy mlaen yn yr ardal ac yn rhannu straeon lleol. Handi!

Cofiwch danysgrifio i’ch egylchlythyr chi heddiw!

Hyfforddiant i ohebwyr bro

I gyd-fynd â hyn, bydd Bro360 yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddiant i ddefnyddwyr gwefannau bro y gwanwyn yma ar zoom.

Mae datblygiadau newydd ar ein gwefannau’n golygu ei bod hi’n bosib rhoi cyfrej gwahanol a chyffrous i straeon lleol.

Yn gyntaf bydd hyfforddiant i olygyddion ddydd Mercher 15 Chwefror (un sesiwn am 12.30pm ac un am 6pm).

Byddwn yn cynnal sesiynau cyffredinol ar sut mae creu stori leol ar ddydd Mercher 8 Mawrth (12.30pm a 6pm), a sesiynau ar greu blogiau byw o ddigwyddiadau ar 5 Ebrill (12.30pm a 6pm).

Cliciwch ar y dolenni i gadw lle ar yr amseroedd sy’n eich siwtio chi.

Mae’r sesiynau i gyd yn rhad ac am ddim i ohebwyr bro.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)