Cystadleuaeth Aredig Gogledd Ceredigion 2023

Lluniau trwy garedigrwydd Hilton Jones

gan Eleri Jewell

Daeth cyfle i ail-gydio yng Nghystadleuaeth Aredig Gogledd Ceredigion ar gaeau Penycaerau, Rhos-y-garth trwy ganiatad caredig Mr Robert Jones ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Ebrill.

Cafwyd diwrnod o hwyl yn gweld a dysgu gwahanol ddulliau o aredig gan gystadleuwyr o bellteroedd Norfolk ac o stepen drws Llanddewi Brefi.  Rhai yn wynebau cyfarwydd ag eraill yn enwau newydd i’r ardal.

Gyda 9 dosbarth gwahanol, roedd cael 21 o gystadleuwyr yn galonogol iawn.  Roedd y tywydd ffafriol hefyd wedi ennyn diddordeb aelodau o’r cyhoedd i alw heibio, a credir bod fan fwyd Cegin Shân wedi denu nifer hefyd!

Canlyniadau’r diwrnod fel a ganlyn:

Semi Digger

  1. Robert Convery

Hen Beiriant Hydraulic

  1. Clive Pugh
  2. John Lewis
  3. Cliff Hamer

Trelar

  1. Sam Jones
  2. Gordon Harries

Clasur

  1. Allan Davies
  2. Ceri Richards
  3. Robert Pugh

Nofis

  1. Hefin Jones
  2. Owen Jones

Toriad Uchel

  1. Derek Needham
  2. Morgan Evans

Ferguson

  1. John Evans

Plot Gorau

  1. Derek Needham

Cardiau Gorau

  1. Owen Jones

Daeth ffotograffydd lleol, Hilton Jones i gofnodi’r diwrnod a diolchwn yn fawr iddo am rannu ei luniau arbennig yma.