Cynnwrf wrth lansio siop newydd Antur Cymru

Lansiad swyddogol Gofod Masnachu ar y Stryd Fawr yng Nghastellnewydd Emlyn.

Helen Gwenllian
gan Helen Gwenllian

Roedd cynnwrf ar Stryd Fawr Castellnewydd Emlyn, wrth i Antur Cymru lansio gofod prawf-fasnachu yno.

Ym mis Hydref, meddiannodd y mudiad siop wag yn y dref mewn gobaith o gynnig cyfleoedd i fusnesau newydd dreialu eu busnes. Efallai bydd trigolion lleol wedi sylwi ar newidiadau i’r arwyddion a’r ffenest dros yr wythnosau dwethaf.

Mae 5 busnes bach wedi’u lleoli yn y siop yn barod, gan werthu amrywiaeth o nwyddau, o ddillad a chrefftau unigryw i flodau a danteithion melys. Mae’r cynnyrch yn enghraifft berffaith o’r dalent sydd yma yng Nghastellnewydd Emlyn a’r ardal.

Roedd y lansiad yn cynnwys casgliad o bobl ysbrydoledig ac angerddol o ran cefnogi busnesau bach, gan roi cyfle i rannu syniadau a thrafod cyfleoedd newydd.

Braint oedd cael presenoldeb Maer y Dref, Y Cyng. Hazel Evans, yno hefyd yn ei rôl fel aelod cabinet er adfywio Cyngor Sir Gâr.  Gwerthfawrogir ei gwaith a’i hymrwymiad wrth helpu i yrru’r gwaith o ddatblygu economi’r ardal.

Diolch yn arbennig i Cefin Campbell AS am ei gefnogaeth dros nifer o flynyddoedd ac am ei ymweliad â Chastellnewydd Emlyn i sgwrsio â’r masnachwyr a’r tîm.

Cofiwn hefyd am y tîm Cymorth Busnes Lleol. Diolch iddyn nhw am lwyddo i gael y gofod yn barod ar gyfer y lansiad. Diolch hefyd i’r gymuned leol am y croeso cynnes a’r adborth cadarnhaol.

Ymlaen â’r gwaith nawr o gefnogi busnesau yng nghefn gwlad Cymru gan hybu’r ysbryd entrepreneuraidd a chyfrannu tuag at dwf cymunedau bywiog a chynaladwy.

Am wybodaeth bellach am y Cymorth Busnes Lleol, neu i ddatgan eich diddordeb i fasnachu yn un o’r gofodau masnachu, cysylltwch â ni ar: business@anturcymru.org.uk