Cyhoeddi parhâd i Bro360 ar drothwy blwyddyn newydd

Bydd prosiect Ymbweru Bro yn cefnogi cymunedau am 5 mlynedd 

Lowri Jones
gan Lowri Jones
5

Ar ôl blwyddyn o uchafbwyntiau i Bro360 a’r 13 o wefannau bro, mae cwmni Golwg wedi sicrhau cyllid gwerth £500,000 i gynnal prosiect Ymbweru Bro.

Daw’r cyllid am y prosiect 5 mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri.

Esblygiad i gynllun Bro360 fydd hwn – sef cynllun a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu cymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu a chynnal eu gwefannau bro eu hunain.

Yn dilyn llwyddiant nifer o’r gwefannau bro cyntaf – sy’n cynnwys gweld Clonc360 yn ennill gwobr genedlaethol Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn – mae nifer o ardaloedd newydd wedi galw am gael ymuno â’r prosiect.

Blwyddyn o uchafbwyntiau

Mae uchafbwyntiau eraill 2023 yn cynnwys:

  • sefydlu 3 gwefan fro newydd, ym Môn, Dyffryn Teifi a Bro Sion Cwilt
  • gweld dros 1,200 o straeon lleol yn cael eu cyhoeddi gan wirfoddolwyr, gan gynnwys siaradwyr
  • newydd
  • cydweithio
  • â degau o ysgolion, clybiau a chymdeithasau i gynnal sesiynau hyfforddiant creadigol

Er bod Ymbweru Bro yn ddatblygiad naturiol i brosiect y gwefannau bro, mae am fod yn cynnig llawer mwy na gwefan straeon lleol i’r cymunedau fydd yn cymryd rhan.

Y cymunedau eu hunain fydd yn penderfynu beth sydd ei angen yn lleol o safbwynt cymdeithas a’r Gymraeg, a rôl y prosiect fydd ysgogi gweithgarwch cymunedol i ymateb i’r angen a’r potensial. Mewn un ardal gallai droi’n brosiect democratiaeth gyda phobol ifanc; mewn ardal arall gall ymwneud â rhoi hwb i fusnesau bach; ac mewn cymuned arall gall helpu i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.

Bydd Ymbweru Bro yn cyfuno pobol ar lawr gwlad, cyfryngau a meddwl creadigol i greu rhaglen o brosiectau cyffrous i sbarduno gweithgarwch yn y cymunedau fydd yn dewis bod yn rhan o’r prosiect.

Penodi Cydlynydd

Cam cyntaf y prosiect fydd penodi Cydlynydd i arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen gyffrous o weithgareddau Ymbweru Bro a gweithio gyda grwpiau, cymdeithasau a phobol yn yr ardaloedd amrywiol i’w gwireddu. Mae hon yn swydd barhaol gyda chwmni Golwg, ac mae modd ymgeisio tan 23 Ionawr.

Bydd mwy o fanylion am y prosiect, gan gynnwys sut gall ardaloedd ddangos diddordeb mewn cymryd rhan, yn ymddangos yn y gwanwyn.