Croeso ‘Dolig Cricieth 2023

Roedd gŵyl Croeso ‘Dolig yn ddigwyddiad arbennig iawn gyda’r Stryd Fawr yn fwrlwm o brysurdeb

gan Catrin Jones
IMG_5339

Troi’r goleuadau Nadolig Ymlaen gyda’r Cyng. Lowri-Ann Richards

IMG_5363

Rhai o goed Nadolig gwaith llaw Cricieth Creadigol yn harddu’r Maes

DSCF1777

Y Cyng. Lowri-Ann Richards yn diddanu’r dorf

DSCF1770

Côr Plant Ysgol Treferthyr

DSCF1778

Y Cyng. Lowri-Ann Richards

DSCF1794

Môr-Neidr y Starlight Players

DSCF1793

Môr-Neidr y Starlight Players

IMG_5325

Y Starlight Players yn diddanu’r dorf

IMG_5334

Côr Meibion Dwyfor yn diddanu’r dorf

DSCF1809

Johnny Jacobson yn diddanu’r dorf

IMG_5344

Y dorf yn mwynhau’r naws ar y Maes

IMG_5353

Coed Nadolig gwaith llaw Cricieth Creadigol yn harddu’r Maes

IMG_5456

Y Cyng. Lowri-Ann Richards ac Annwen Hughes Deli Newydd

IMG_5346

Ffenest siop hardd Nadoligaidd ar y Stryd Fawr

IMG_5347

Ffenest siop hardd Nadoligaidd ar y Stryd Fawr

IMG_5348

Ffenest siop hardd Nadoligaidd ar y Stryd Fawr

IMG_5351

Siopa hwyr ar y Stryd Fawr

IMG_5350

Coed Nadolig ar siopau’r Stryd Fawr

IMG_5277

Gosod y Coed Nadolig gan rhai o griw gweithgar Cricieth Creadigol

Roedd gŵyl Croeso ‘Dolig yn ddigwyddiad arbennig iawn gyda’r Stryd Fawr yn fwrlwm o brysurdeb Nos Iau 23 Tachwedd. Mae’n noson boblogaidd i’r teulu oll fedru mwynhau siopau’r dref sy’n agor eu drysau’n hwyr er mwyn cychwyn y dathlu blynyddol.

Daeth cannoedd o bobl ynghyd i’r Neuadd Goffa i glywed caneuon Nadoligaidd gan Gôr plant Ysgol Treferthyr a Chôr Meibion Dwyfor, cân hwyliog am fôr-ladron gan y Starlight Players, a chyfle i gwrdd â’u môr-neidr a fydd yn chwarae rhan ganolog yn y pantomeim mis Ionawr. Cafwyd perfformiadau unigol gan y Cyng. Lowri-Ann Richards a Johnny Jacobson. Cynnwyd y goleuadau ar y Maes gan Lowri-Ann gyda help y dorf yn cyfrif lawr o ddeg.

Mae’n ffantastig gweld gwaith llaw newydd Cricieth Creadigol Creative Criccieth – 8 o goed Nadolig amryliw crochet a gweu wedi’u gosod o gwmpas y Maes, sydd wedi cael croeso mawr yn y gymuned a thu hwnt ac yn sicr yn rhoi mwynhad i bawb sy’n eu gweld.

Dywedodd Sarah Davidson a gymerodd ran yn y prosiect:

“Mae wedi bod yn ymdrech tîm gwych dros y misoedd lawer gan ddod â mwynhad mawr, paneidiau te a chacennau hefyd!! Mae gweld yr ymateb a’r gwerthfawrogiad gan y gymuned a thu hwnt yn rhoi boddhad mawr.”

Roedd pobol leol yn falch o’r syniad hefyd:

“Mor hyfryd, syfrdanol a chlyfar iawn. Fe ddylech chi fod mor falch ohonoch chi’ch hun – llawer o waith caled wedi’i mynd fewn i wneud y coed hyfryd yma. Da iawn chi am wneud Cricieth hyd yn oed yn fwy prydferth. Cymuned mor wych o bobl dalentog, yn rhoi gwên ar wynebau pobl.”

Dywedodd Annwen Hughes sy’n rhedeg y Deli Newydd ar y Stryd Fawr:

“Mae’r merched wedi bod yn brysur unwaith eto ac mae Cricieth yn falch iawn ohonoch – diolch yn fawr.”

Cyfrannodd David Meldrum o gwmni Meldrum Leisure tuag at goed ‘Dolig i siopau’r dref a bu Clive Lloyd a’i Fab yn helpu gyda’u gosod.  Trefnwyd y noson gan bwyllgor Croeso ‘Dolig a’r goleuadau gan y Cyngor Tref.  Cyfrannodd  nifer o siopau’r dref tuag at wobrau raffl a dynnwyd ar y noson.

Fe gynhaliodd Siop Del gystadleuaeth i blant greu poster y Nadolig ar gyfer y Stryd Fawr i annog siopa’n lleol. Roedd dau gategori oedran. Llongyfarchiadau i’r arlunwyr a ddaeth i’r brig: Plant hyd at 7 oed – Cadi Enlli, 1af, Lucas Williams 2ail a George O’Hara 3ydd; Plant 8-11 oed – Bella 1af, Efan Smith 2ail a Swyn Williams 3ydd.

Dywedodd y Cyng. Angela Hughes o’r Cyngor Tref sydd hefyd a’i theulu yn rhedeg Siop Anrhegion y Golden Eagle ar y Stryd Fawr ac sy’n aelod o bwyllgor Croeso Dolig:

“Roedd yn noson wych o adloniant a sbri gyda’r gymuned yn tynnu at ei gilydd i ddechrau Tymor y Nadolig a’r Maes a’r Stryd Fawr yn pefrio dan oleuadau ac addurniadau arbennig creadigol.  Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd Dda.”