Roedd gŵyl Croeso ‘Dolig yn ddigwyddiad arbennig iawn gyda’r Stryd Fawr yn fwrlwm o brysurdeb Nos Iau 23 Tachwedd. Mae’n noson boblogaidd i’r teulu oll fedru mwynhau siopau’r dref sy’n agor eu drysau’n hwyr er mwyn cychwyn y dathlu blynyddol.
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i’r Neuadd Goffa i glywed caneuon Nadoligaidd gan Gôr plant Ysgol Treferthyr a Chôr Meibion Dwyfor, cân hwyliog am fôr-ladron gan y Starlight Players, a chyfle i gwrdd â’u môr-neidr a fydd yn chwarae rhan ganolog yn y pantomeim mis Ionawr. Cafwyd perfformiadau unigol gan y Cyng. Lowri-Ann Richards a Johnny Jacobson. Cynnwyd y goleuadau ar y Maes gan Lowri-Ann gyda help y dorf yn cyfrif lawr o ddeg.
Mae’n ffantastig gweld gwaith llaw newydd Cricieth Creadigol Creative Criccieth – 8 o goed Nadolig amryliw crochet a gweu wedi’u gosod o gwmpas y Maes, sydd wedi cael croeso mawr yn y gymuned a thu hwnt ac yn sicr yn rhoi mwynhad i bawb sy’n eu gweld.
Dywedodd Sarah Davidson a gymerodd ran yn y prosiect:
“Mae wedi bod yn ymdrech tîm gwych dros y misoedd lawer gan ddod â mwynhad mawr, paneidiau te a chacennau hefyd!! Mae gweld yr ymateb a’r gwerthfawrogiad gan y gymuned a thu hwnt yn rhoi boddhad mawr.”
Roedd pobol leol yn falch o’r syniad hefyd:
“Mor hyfryd, syfrdanol a chlyfar iawn. Fe ddylech chi fod mor falch ohonoch chi’ch hun – llawer o waith caled wedi’i mynd fewn i wneud y coed hyfryd yma. Da iawn chi am wneud Cricieth hyd yn oed yn fwy prydferth. Cymuned mor wych o bobl dalentog, yn rhoi gwên ar wynebau pobl.”
Dywedodd Annwen Hughes sy’n rhedeg y Deli Newydd ar y Stryd Fawr:
“Mae’r merched wedi bod yn brysur unwaith eto ac mae Cricieth yn falch iawn ohonoch – diolch yn fawr.”
Cyfrannodd David Meldrum o gwmni Meldrum Leisure tuag at goed ‘Dolig i siopau’r dref a bu Clive Lloyd a’i Fab yn helpu gyda’u gosod. Trefnwyd y noson gan bwyllgor Croeso ‘Dolig a’r goleuadau gan y Cyngor Tref. Cyfrannodd nifer o siopau’r dref tuag at wobrau raffl a dynnwyd ar y noson.
Fe gynhaliodd Siop Del gystadleuaeth i blant greu poster y Nadolig ar gyfer y Stryd Fawr i annog siopa’n lleol. Roedd dau gategori oedran. Llongyfarchiadau i’r arlunwyr a ddaeth i’r brig: Plant hyd at 7 oed – Cadi Enlli, 1af, Lucas Williams 2ail a George O’Hara 3ydd; Plant 8-11 oed – Bella 1af, Efan Smith 2ail a Swyn Williams 3ydd.
Dywedodd y Cyng. Angela Hughes o’r Cyngor Tref sydd hefyd a’i theulu yn rhedeg Siop Anrhegion y Golden Eagle ar y Stryd Fawr ac sy’n aelod o bwyllgor Croeso Dolig:
“Roedd yn noson wych o adloniant a sbri gyda’r gymuned yn tynnu at ei gilydd i ddechrau Tymor y Nadolig a’r Maes a’r Stryd Fawr yn pefrio dan oleuadau ac addurniadau arbennig creadigol. Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd Dda.”