Criw Llanbed yn cipio gwobr newyddiadura genedlaethol

Clonc360 enillodd gategori Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gwefan fro Clonc360 wedi ennill clod cenedlaethol yn Noson Wobrwyo Cyfryngau Cymru yng Nghaerdydd.

Derbyniodd y criw gweithgar o Lanbed y wobr am Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn gan Elusen y Newyddiadurwyr, mewn noson o ddathlu yng Ngwesty’r Parkgate yn y brifddinas ar nos Wener 10 Tachwedd 2023.

Cwmbran Life a Caerphilly Observer oedd y ddau arall ar restr fer y categori yma.

Clonc360 yn dathlu yn y brifddinas!

Ifan Meredith

Cyhoeddi Clonc360 yn enillwyr yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2023.

Clonc360 yn gwasanaethu’r gymuned

Gwefan newyddion lleol-iawn sy’n cael ei gyrru gan y gymuned yw Clonc360, ac mae’n cynrychioli ardal Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau.

Wedi’i sefydlu yn 2015, mae gwefan fro Clonc360 yn cael ei rhedeg gan griw o bobol leol sy’n awyddus i hyrwyddo popeth da am eu bro. Dyma’r cyntaf o wefannau bro sy’n rhan o rwydwaith cwmni Golwg, sydd bellach wedi tyfu i 13 o wasanaethau lleol, ar draws Ceredigion, Arfon a Môn.

Mae’r gwasanaeth yn llawn straeon lleol gan bobol leol, ac mae’r gwirfoddolwyr hyn yn cyhoeddi, ar gyfartaledd, fwy nag 1 stori y dydd. Mae’r cynnwys yn amrywio o straeon am ddigwyddiadau lleol, newyddion sy’n torri, y diweddaraf gan fudiadau, teyrngedau, newyddion busnes, chwaraeon, hanes a mwy. Mae hefyd yn cynnwys calendr lleol lle gall pawb sy’n byw yn lleol hysbysebu digwyddiadau, ac mae straeon yn ymddangos fel erthyglau, orielau lluniau, fideos a blogiau byw.

Mae dros 500 o bobl leol wedi cyfrannu straeon i Clonc360, ac mae’r tîm golygyddol yn cynnwys pobol leol sy’n ardderchog am annog eraill i gymryd rhan.

Newid gêr

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Clonc360 wedi codi gêr o ran adrodd ar ddemocratiaeth leol, a meithrin talent leol. Cynhaliwyd is-etholiad yn y dref yn hydref 2022, a chymrodd myfyriwr ysgol 17 oed at y dasg o roi sylw teilwng i’r is-etholiad. Aeth ati i gyfweld â’r holl ymgeiswyr, rhyddhaodd y fideos, cynhaliodd ddigwyddiad hysting byw go iawn a rannwyd ar Clonc360 trwy flog byw, ac adroddodd ar y diwrnod pleidleisio. Yn y cyfnod yma, rhoddodd Clonc360 wasanaeth fyddai’n anodd iawn i gyfryngau cenedlaethol ei ddarparu i’r gymuned.

Dyma un enghraifft yn unig o’r gymuned leol yn cymryd rheolaeth o’u materion lleol ac yn mynd i’r afael â newyddion a materion cyfoes sydd o bwys iddynt.

Mae Clonc360 wedi dod yn rhan hanfodol o gymdeithas yn ardal Llambed, ac yn esiampl gwych o botensial gwefannau bro i wneud gwahaniaeth.