Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli yn dathlu 80 

Faint o rôl mae Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli wedi’i chwarae ym mywyd ieuenctid yn yr ardal?

Cara Medi Walters
gan Cara Medi Walters
Martha Sauro

Aelodau Clwb Llanelli yn yr eisteddfod sir

Mae Sir Gâr yn adnabyddus am ei hardaloedd gwledig a’i llwyddiant amaethyddol dan arweiniad y clybiau ffermwyr ifanc.

Fe fu Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli yn lle poblogaidd erioed i gymdeithasu, ffermio ac i ddysgu sgiliau newydd, a nawr mae’r Clwb ar drothwy troi yn bedwar ugain oed.

Dan arweiniad pobl ifanc, mae clybiau ffermwyr ifanc megis Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 10 a 28 mlwydd oed i ddatblygu sgiliau, gweithio gyda’u cymunedau lleol, teithio dramor a chymryd rhan yn amrywiaeth o gystadlaethau wrth fwynhau bywyd cymdeithasol.

Yn ôl Is-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, Caryl Jones:

“Mae mudiad y Ffermwyr Ifanc yn fudiad arbennig a gwerthfawr iawn, maen nhw’n cael y cyfle i ddysgu sgiliau amlbwrpas, profiadau bythgofiadwy a gwneud ffrindiau oes. Rydym fel un teulu mawr yma yn Sir Gâr ac er bod pobl clwb yn mwynhau cystadleuaeth fach rydym ni gyd yn cefnogi ein gilydd ac yn falch i weld clybiau yn ffynnu ac yn datblygu. Braf iawn gweld fod Clwb Llanelli wedi cyrraedd carreg filltir arbennig eleni yn dathlu 80 mlynedd, pen-blwydd hapus iawn i chi! A hir oes i Glwb Llanelli, a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd dros y deg, ugain, wythdeg mlynedd nesaf.”

Roedd bod yn aelod o Glwb Llanelli wedi helpu Celyn Thomas i fynd ymlaen i gael ei swydd ddelfrydol:

“Dwi wedi bod yn ysgrifenyddes i’r clwb ers sawl blwyddyn a wnaeth hynny fy helpu i gael swydd yn y lle cyntaf oherwydd pan ddechreues i yn y gwasanaethau plant dechreues i fel admin ac roedd rhaid i mi gymryd munudau ac achos bod gen i’r profiad a fy mod i’n ei wneud yn wirfoddol wnaeth hyn helpu fy swydd i. Hefyd nawr, dwi’n safeguarding officer i’r clwb a dyna pam dwi’n neud y swydd dwi’n neud, dwi’n hoffi sicrhau fod y plant yn saff a bod rhywun gyda nhw i siarad â. Dwi’n teimlo fy mod i’n rhoi nôl i’r plant y rhin profiadau a beth dderbyniais i pan oeddwn i’n ifancach. Bellach dwi’n annog fy chwaer, brawd â’r teulu i gyd i ymuno â’r clwb oherwydd popeth mae’r clwb wedi fy helpu i fel person.”

Un a fuodd yn rhan o glwb ffermwyr ifanc a chwaraeodd ran enfawr yn ei fywyd oedd y Cynghorydd Sir a Chadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cynfor Sir Gâr, Tyssul Evans. Roedd wrth ei fodd yn clywed am lwyddiant Llanelli yn cyrraedd carreg filltir yn ddiweddar:

“Llongyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Llanelli a’r Cylch ar gyrraedd pedwar ugain mlwydd oed. Er mae Clwb Ffermwyr Ifanc yw’r enw nid yw’r aelodaeth yn cael ei gyfyngu i ieuenctid sydd â chefndir amaethyddol, dim byd o’r fath, gall unrhyw un o dan wyth ar hugain oed ymaelodi a buan y can brofiad o fod yn perthyn i fudiad sydd yn rhoi cyfle iddynt ddod yn ymwybodol o hanes a diwylliant cefn gwlad ynghyd a chyfleoedd i gystadlu mewn nifer fawr o wahanol weithgareddau. Byddaf yn fyth ddiolchgar am gael y cyfle a’r profiad o fod yn rhan o fywydau ieuenctid yr ardal ac am y cyfle i dreial helpu’r iau wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion a’i gweld yn cymryd e’i chyfrifoldebau newydd o ddifri wrth gael hwyl a sbri ar yr un pryd.”

Yn debyg i’r Cynghorydd Tyssul Evans, mae Aelod Cabinet dros faterion gwledig dan arweiniad Plaid Cymru yn Sir Gâr, Ann Davies, yn dymuno llongyfarch CFfI Llanelli:

“Mae’r mudiad yma yn amhrisiadwy trwy roi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau megis siarad cyhoeddus a chrefftau cefnwlad, yn ogystal â pherfformio mewn ‘Steddfod, Pantomeim a’r Hanner Awr Adloniant. Ni hefyd yn gweld cyn-aelodau’r Mudiad yn datblygu i fod yn ddinasyddion cydwybodol wrth iddynt gymryd rôl flaenllaw o fewn ei chymunedau. Da iawn CFfI Llanelli, ac ymlaen at yr 80 mlynedd nesaf.”

Fel un a symudodd i’r ardal, croesawodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli Emily Jones i’w plith â dwylo agored:

“Dwi’n cofio’r diwrnod cyntaf wnes i helpu paentio a dwi’n cofio fy chwaer a finnau yn swil iawn ac yn dawel iawn bryd hynny yn cuddio tu ôl i Daniel gan mai fo oedd yr unig ffrind roedden ni’n ei adnabod. Newidiodd hynny’n fuan, ar ôl y diwrnod hwnnw fe wnaethon ni ymuno a mynychu’n wythnosol… Mae Ffermwyr Ifanc Llanelli yn golygu ‘Teulu’!”

Dyma ddyfodol ein ffermwyr, dyfodol ein cymunedau a dyfodol y sir. Ymlaen â Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanelli am y blynyddoedd sydd o’i blaen.

I ddathlu’r 80 mae’r clwb wedi trefnu bingo twrci yn Neuadd Sant Pedr ar 8 Rhagfyr er mwyn gallu dathlu gyda’r gymuned ar draws y sir. Mae’r noson yn addo gwobrau o fri a hwyl a sbri er mwyn i bawb ymuno yn hwyl yr ŵyl.