Bron i 200 o bobol yn ymuno â lansiad Cwilt360

Gwibdaith a hanner i groesawu’r 11fed gwefan fro

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20230422_131029

Merched prysur y Brynie – ceidwaid y cawl!

20230422_101728

Plant Ysgol Sul Pencae yn cyflwyno rhai o emynau hwyliog y Gymanfa, yn Neuadd Llanarth

20230422_130101

Llond neuadd fawr Caerwedros amser cinio

20230422_131559

Pawb yn joio’r cawl a’r cymdeithasu yn Neuadd Caerwedros!

20230422_153707

Parti canu Hoffgan yn falch o fod yn perthyn i’w bro

20230422_181723

Lansio llyfryn lleol a gwefan fro wrth ymweld â Thalgarreg

Daeth bron i 200 o bobol mas i’w neuadd bentref ddydd Sadwrn 22 Ebrill, ar gyfer lansiad adnodd newydd i’r ardal Caerwedros a’r cylch.

Cwilt360 yw enw gwefan fro newydd ardal ehangach Bro Sion Cwilt – y darn o dir yng ngorllewin Ceredigion – o Lanarth yn y gogledd, i Cei a Llangrannog ar yr arfordir a lawr tua Sarnau, ac i Dalgarreg yn y dwyrain. Mae’n glytwaith o bentrefi a chymunedau gwledig cryf sydd â chysylltiad clos â’i gilydd.

Mae’r ardal yn falch o ddala lan gyda gweddill Ceredigion!

Mae gwefannau bro wedi’u creu gan gymunedau gogledd Ceredigion, ardal Tregaron, Llanbed a’r cylch, Dyffryn Aeron a Dyffryn Teifi dros y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf dan adain cwmni Golwg, a phrosiect Bro360.

Daeth y teimlad o berthyn i’r fro yn amlwg ddydd Sadwrn, wrth i’r wefan wibdeithio o gwmpas 6 neuadd bentref – gan gyrraedd sawl uchafbwynt – roedd galw mowr am gawl amser cinio yng Nghaerwedros, a llond lle yn Nhalgarreg i fennu’r dydd.

S’dim dowt bod y ‘bwyd am ddim’ ar y daith wedi denu sawl Cardi i ymuno. Y wledd o dalentau lleol oedd wedi denu rhai – o eitemau gan ysgolion, Ysgol Sul, parti canu ac ieuenctid y fro, a’r cyfle i ddathlu cyfoeth ein hanes o lenorion a beirdd lleol trwy gân a gair.

Straeon newydd, gohebwyr newydd, cyfle newydd

Ond s’dim dowt chwaith nad yw pawb wedi dysgu tamed bach mwy am botensial defnyddio gwefan fro er lles y gymuned. Mae’n lle i rannu beth sy’n digwydd nawr, a defnyddio cyfryngau fel fideos a lluniau a blogiau byw i wneud hynny.

“Cefais y fraint o fod yn rhan o ddiwrnod lansio Cwilt360,” medd Elliw Davies, aelod o CFfI Caerwedros.

“Mae tro gyntaf i bopeth – roeddwn i yn un o ohebwyr y dydd! Wel, am brofiad gwerth chweil. Cawsom adloniant gan bobol yr ardal leol a digon o fwyd a diodydd ar y ffordd a bues i’n rhannu’r cwbwl mewn blog byw ar y wefan newydd. Ymlaen i’r dyfodol, Cwilt360.”

Diolch i Elliw a sawl person lleol arall am gymryd at y gohebu, i’r 6 neuadd am y croeso cynnes, i bawb fu’n cwcan ac yn syrfio bwyd a te, ac i bawb ddaeth i fod yn rhan o’r cyffro.

Diolch am gymorth Cronfa Gymunedol y Loteri, a Cynnal y Cardi (trwy Gyngor Sir Ceredigion) am bob cefnogaeth hefyd.

Cymryd y cam nesa, gyda’n gilydd

Mae 12 stori eisoes wedi’i chyhoeddi ar y wefan (mewn 4 diwrnod yn unig!)

Tybed beth fydd y stori neu’r fideo nesa, a phwy o’r trigolion lleol fydd yn ei chyhoeddi?