Daeth bron i 200 o bobol mas i’w neuadd bentref ddydd Sadwrn 22 Ebrill, ar gyfer lansiad adnodd newydd i’r ardal Caerwedros a’r cylch.
Cwilt360 yw enw gwefan fro newydd ardal ehangach Bro Sion Cwilt – y darn o dir yng ngorllewin Ceredigion – o Lanarth yn y gogledd, i Cei a Llangrannog ar yr arfordir a lawr tua Sarnau, ac i Dalgarreg yn y dwyrain. Mae’n glytwaith o bentrefi a chymunedau gwledig cryf sydd â chysylltiad clos â’i gilydd.
Mae’r ardal yn falch o ddala lan gyda gweddill Ceredigion!
Mae gwefannau bro wedi’u creu gan gymunedau gogledd Ceredigion, ardal Tregaron, Llanbed a’r cylch, Dyffryn Aeron a Dyffryn Teifi dros y blynyddoedd a’r misoedd diwethaf dan adain cwmni Golwg, a phrosiect Bro360.
Daeth y teimlad o berthyn i’r fro yn amlwg ddydd Sadwrn, wrth i’r wefan wibdeithio o gwmpas 6 neuadd bentref – gan gyrraedd sawl uchafbwynt – roedd galw mowr am gawl amser cinio yng Nghaerwedros, a llond lle yn Nhalgarreg i fennu’r dydd.
S’dim dowt bod y ‘bwyd am ddim’ ar y daith wedi denu sawl Cardi i ymuno. Y wledd o dalentau lleol oedd wedi denu rhai – o eitemau gan ysgolion, Ysgol Sul, parti canu ac ieuenctid y fro, a’r cyfle i ddathlu cyfoeth ein hanes o lenorion a beirdd lleol trwy gân a gair.
Straeon newydd, gohebwyr newydd, cyfle newydd
Ond s’dim dowt chwaith nad yw pawb wedi dysgu tamed bach mwy am botensial defnyddio gwefan fro er lles y gymuned. Mae’n lle i rannu beth sy’n digwydd nawr, a defnyddio cyfryngau fel fideos a lluniau a blogiau byw i wneud hynny.
“Cefais y fraint o fod yn rhan o ddiwrnod lansio Cwilt360,” medd Elliw Davies, aelod o CFfI Caerwedros.
“Mae tro gyntaf i bopeth – roeddwn i yn un o ohebwyr y dydd! Wel, am brofiad gwerth chweil. Cawsom adloniant gan bobol yr ardal leol a digon o fwyd a diodydd ar y ffordd a bues i’n rhannu’r cwbwl mewn blog byw ar y wefan newydd. Ymlaen i’r dyfodol, Cwilt360.”
Diolch i Elliw a sawl person lleol arall am gymryd at y gohebu, i’r 6 neuadd am y croeso cynnes, i bawb fu’n cwcan ac yn syrfio bwyd a te, ac i bawb ddaeth i fod yn rhan o’r cyffro.
Diolch am gymorth Cronfa Gymunedol y Loteri, a Cynnal y Cardi (trwy Gyngor Sir Ceredigion) am bob cefnogaeth hefyd.
Cymryd y cam nesa, gyda’n gilydd
Mae 12 stori eisoes wedi’i chyhoeddi ar y wefan (mewn 4 diwrnod yn unig!)
Tybed beth fydd y stori neu’r fideo nesa, a phwy o’r trigolion lleol fydd yn ei chyhoeddi?