Brian Brenin y Topyrs

Mae Brian topyr blwch post Cricieth sy’n deyrnged i’r RNLI yn cael sylw ledled y byd

gan Catrin Jones
image_6483441-14

Brian

image_6483441-15

Margaret Rees wnaeth weu Brian

IferIagoBrian

Ifer a Iago Gwyn sy’n gwirfoddoli gyda chriw achub RNLI Cricieth gyda Brian

Brian Brenin y Topyrs

Bu cynnydd aruthrol ym mhoblogrwydd topyrs bocsys post ar hyd a lled y wlad yn ystod y ddwy flynedd diwethaf sy’n amlwg eu presenoldeb ar y bocsys post yng Nghricieth.

Maent yn rhan o waith cymunedol creadigol Cyngor Tref Cricieth o dan faner Cricieth Creadigol  sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol gyda Gwobr Bywydau Creadigol yn 2021 ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobrau 2022.

Rydym yn ffodus iawn o ddoniau criw niferus sydd yn rhoi mor hael ei hamser i greu ar gyfer mwynhad y gymuned leol, twristiaid a’r miloedd o bobl sy’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r criw yn cael llawer iawn o hwyl yn cynllunio a rhannu syniadau am greu topyrs newydd, sy’n gyfuniad o waith crochet a gweu ac wedi’u hysbrydoli gan thema, tymhorau neu ddigwyddiad.

Bu nifer ohonynt yn harddu’r dref ers 2022 ac maent yn amlwg yn dod â llawer o bleser i’r rhai sy’n ei creu a’r gynulleidfa sy’n ei mwynhau.

Yn ddiweddar bu’r topyrs yng Nghricieth ar thema Eisteddfodol i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i’r fro ac wedi cael derbyniad gwych.

Mae tystiolaeth  i’w poblogrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol: “Hardd.  Dych chi ddim yn gwybod faint o bleser i chi’n ei roi i ni.” “Diolch yn fawr iawn;”” Diolch am wneud i mi wenu;” Mae’r rhain yn codi fy nghalon i; “Mae’n gwneud fy niwrnod i weld y creadigaethau gwych yma;” ”Gwneud i mi eisiau dysgu crochet neu weu.”

Un o’r topyrs yn y dref sy’n deyrnged i’r RNLI yw Brian sydd wedi cael sylw ledled y byd yn cyrraedd miliynau o bobl ers iddo ymddangos gyntaf ar  y bocs post sydd ar y gyffordd rhwng Stryd y Castell a Teras Tanygrisiau yn Hydref 2022, gyda 55,000 yn ei hoffi a rhannu ar safle Facebook “UK Postbox Toppers and More” heb son am safleoedd eraill.  Mae gweinydd y safle yn dweud bod cyrhaeddiad Brian yn anhygoel ac ymhell bell ar y blaen i unrhyw bostiad arall ac felly yn frenin y topyrs ledled y wlad a thrachefn.  Ymysg y miloedd sylwadau ar y safle yma:” Teyrnged syfrdanol i bobl anhygoel”, “Mae’n berffaith o ran manylion ac yn bleser i’w weld”,  “Da iawn – yn goleuo diwrnod pawb – yn dod â llawer o lawenydd i fywydau pobl.” “Dwi’n caru Cricieth. Golygfa hyfryd. Gwaith gwych sy’n edrych yn grêt.”

Mae’r Post Brenhinol wedi mynd mor bell â dweud eu bod yn gwerthfawrogi angerdd y rhai sy’n creu y topyrs ac nad oes ganddynt unrhyw broblem gyda nhw cyn belled nad ydynt yn rhwystro pobl sy’n postio eitemau neu’r postmyn rhag casglu post. Mae’r postmon lleol Michael Williams wrth ei fodd gyda’r topyrs yn y dref ac yn dweud: “Mae o’n grêt i weld y topyrs sy’n tynnu sylw gymaint o bobol at y bocsys post.  Dwi’n aml yn cael pobl yn gofyn amdanyn nhw a phwy sydd wedi eu creu, fel arfer hefo ffôn yn llaw a gwen fawr ar eu hwynebau yn barod i dynnu llun Brian.  Maen nhw’n hynod o glyfar, ac mae’r manylder yn y dyluniad yn wych. Mae Brian yn sefyll ar un o’r llefydd fwyaf eiconig Cricieth efo’r môr a mynyddoedd yn y cefndir un ffordd, a’r Castell, siop hufen ia a siop sglodion y ffordd arall, felly mae bron pob un ymwelwr sy’n dod i Gricieth yn ei weld o! “.

Dywed Margaret Rees, wnaeth weu Brian “Oherwydd y rhai y mae’n eu cynrychioli mae Brian wedi cyffwrdd â chalonnau llawer. Mae’r olygfa ysblennydd wedi ysgogi miloedd i wneud sylwadau ar yr amseroedd gwych y maent wedi’u treulio yng Nghricieth. Mae dod â gwên ac atgofion hapus i bobl yn rhoi boddhad mawr.”

Yn ôl Ifer Gwyn, sy’n gwirfoddoli gyda chriw achub yr RNLI Cricieth: “Mae’r Criw wedi cymryd Brian bron fel un o’r Criw bellach.  Mae’n wych gweld y gwerthfawrogiad o’n hymdrechion a’r rôl mae’r RNLI yn chwarae yn y gymuned. Hefyd, mae’r crefftwaith cain yn rhywbeth i ryfeddu ato.”

Meddai Sarah Davidson: “Fel Gwirfoddolwr yn Siop RNLI Cricieth a hefyd un sy’n cyfrannu at waith Cricieth Creadigol rwy’n falch o glywed y sylwadau hyfryd a wnaed gan ein hymwelwyr pan welant Brian, topyr Blwch Post yr RNLI. Gallai’r miloedd o ‘hoffion’ y mae wedi’u denu ar Facebook gael eu dyblu’n hawdd oherwydd y bobl sy’n mynd heibio a gwenu ac yn tynnu lluniau ohono.”