Atgofion amhrisiadwy i ni fel teulu

Atgof Nia Jane Owen-Midwood ar gyfer Straeon Steddfota

2015, dyma ble cychwynnodd yr elfen gystadlu a chymryd rhan mewn Eisteddfodau – Cadi yn 6 ac Ifan yn 5 oed.

Byddai eu Prifathrawes a’u hathrawes dosbarth yn eu hysgogi i gymryd rhan yng nghyngherddau’r Ysgol ac Eisteddfodau’r Urdd.

Wedi i’r ddau gael blas ar gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, bu i’r ddau ddechrau mynd o amgylch ‘steddfoda bach lleol ym Mhen Llyn, sef Y Ffôr, Mynytho, Uwchmynydd, yn canu a llefaru.

Byddai’r ddau yn swil gynddeiriog, yn ddistaw fel llygod eglwys, ond fel aeth y blynyddoedd heibio bu iddynt fagu hyder, a phenderfynu cystadlu mewn mwy o steddfoda’, yng Nghlynnog Fawr, Chwilog a Garndolbenmaen.

Yn wir, roedd yn fonws iddynt gael pres poced bach am guro, ar ddau wrth eu boddau. Roedd troedio ar lwyfan wedi eu helpu i ddod allan o’u cragen, a dod yn fwy hyderus.

Fel byddai’r ddau yn crwydro o ‘steddfod i ‘steddfod, bu i’r cystadlu gynyddu, ac aethant ati i gael tro ar ganu cerdd dant, alaw werin, canu deuawd a choginio mewn ambell ‘steddfod.

Yn ystod Eisteddfod Sir Eryri 2018, daeth Ifan yn 1af yn llefaru’r darn “Diwrnod tynnu llun”, a’r cam nesa oedd iddo gynrychioli Eryri yn Llanelwedd. Profiad a hanner, cael mynychu rhagbrawf, ond hen dro, ni chafodd lwyfan. Roedd o’n siomedig ar y pryd, ond daeth y cythraul allan ohono gan ddweud “dwi am drio eto flwyddyn nesa!”. Roedd o’n benderfynol!

Tro Cadi oedd hi 2019, cynrychioli Eryri gyda’r alaw werin “Deryn y Bwn o’r Bana” yng Nghaerdydd.

Roedd hon yn ‘steddfod a hanner, gwyliau carafán, perfformio unigol, a bu i barti llefaru a cherdd dant yr Ysgol gael y profiad o gystadlu yno hefyd.

Mawrth 2020 oedd y pinacl, mynychu Eisteddfod Cylch yr Urdd, ble bu i’r ddau gael llwyddiant, ymarfer cyson a mynd ati o ddifri, a dŵad adra noson honno wedi gwirioni’n lân, ac ar ben eu digon wedi cael 7 cyntaf, 1 ail a 1 trydydd. Roedd hyn yn deimlad braf iddynt a’r ddau yn edrych mlaen i fynd i’r Sir.

Ond, nid hyn oedd yr achos, daeth Covid gan roi stop ar bob dim! Newidiodd popeth dros nos, roedd hyn yn siom iddynt.

Yn ystod Covid, bu i mi gadw’r plant yn ddiwyd, wrth gystadlu’n rhithiol lle roeddan ni’n cael canu, llefaru, ysgrifennu barddoniaeth, arlunio, gwaith crefft a ffotograffiaeth – i gyd o adra.  Roeddwn yn dilyn gwefan “Steddfota” yn rheolaidd i weld pa gystadlaethau oedd yn cael eu rhannu ar eu gwefan.

Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 oedd ‘Steddfod orau Ifan, roedd yr holl ymarfer a brwdfrydedd wedi talu ar ei ganfed. Profiad a hanner, dim rhagbrofion a phawb yn cael tro ar y llwyfan. Yn wir, roedd pawb wrth eu boddau, a hyd yn oed gwell byth pan glywsom Mari Lovgreen yn cyhoeddi bod Ifan yn un o’r 3 ddaeth i’r brig. Roedd cynnwrf o ddisgwyl am y canlyniadau, daeth yn 2il, yn canu am y “Tylluanod”.

Ers dechrau 2023, maen braf bod yr eisteddfodau bach wedi ail afael ynddi, a dwi’n falch o ddeud bod y ddau yn parhau i gystadlu, a hyd yma wedi bod yn Chwilog, Garndolbenmaen a Llanllyfni.

Dros y saith mlynedd ddiwethaf, maent wedi mwynhau cymryd rhan.

Yn wir mae ‘steddfota wedi eu helpu i ddatblygu’n bobl ifanc aeddfed, hyderus a’u helpu i gyfathrebu hefo pobl o bob oedran. Mae’r profiadau wedi eu helpu hefo’u gwaith Ysgol i allu perfformio ar lwyfan, o flaen dosbarth a chymryd rhan yn Eisteddfod yr Ysgol, o flaen cynulleidfa enfawr!

Fel teulu rydym wedi cael llawer o hwyl, wedi cael pleser yn cystadlu, a theimlad bod yr holl ymarfer wedi dwyn i ffrwyth, ac wedi dod a llwyddiant i ni fel teulu, mae’r rhain wir yn atgofion amhrisiadwy.