Arddangosfa Stryd Fawr Cricieth i groesawu Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Mae arddangosfa unigryw o gysylltiadau cryf Cricieth a’i chyfraniad i’r Eisteddfod Genedlaethol wedi

gan Catrin Jones

Mae arddangosfa unigryw o gysylltiadau cryf Cricieth a’i chyfraniad i’r Eisteddfod Genedlaethol wedi’i dadorchuddio’r wythnos hon ar hyd stryd fawr fywiog y dref.

Bydd ymwelwyr â’r Eisteddfod a thwristiaid eraill i’r ardal yn gweld cyfres o fyrddau arddangos dwyieithog yn ffenestri siop a busnes y dref ar hyd y Stryd Fawr.

Maen nhw’n portreadu’r cysylltiadau cryf sydd wedi bod rhwng y dref a’r Eisteddfod dros y blynyddoedd a chyfraniad rhai o lenorion adnabyddus Cymru gyda chysylltiadau Cricieth. Mae’r wybodaeth ar rai o’r byrddau hefyd yn cynnig gwybodaeth gyffredinol, uchafbwyntiau a hanes yr Eisteddfod i ymwelwyr eraill sy’n ymweld â’r ardal. Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosib diolch i gefnogaeth ariannol gan gwmni Magnox, grŵp Croeso Dolig Cricieth a’r Cyngor Tref. Diolch hefyd i bawb sydd wedi ymateb o bell ac agos i’n cais i rannu eu hatgofion ac arteffactau o’r Eisteddfod.

Dywedodd Delyth Lloyd, Cadeirydd Cyngor Tref Cricieth: “Yma yng Nghricieth mae gennym lawer i’w rannu a’i ddathlu am yr Eisteddfod o’r dalent sydd wedi ennill cystadlaethau – yn enwedig cystadlaethau’r goron a’r gadair, i’r corau lleol dros y blynyddoedd. Nawr bod yr Eisteddfod yn dod i’r ardal fe wnaethom ymuno â busnesau a siopau lleol ar y Stryd Fawr i arddangos lluniau o’r adeg y daeth yr Eisteddfod i’r dref hon ym 1975 a’r straeon a’r personoliaethau a gymerodd ran bryd hynny. Mae’r byrddau arddangos ar ein ffenestri ar y Stryd Fawr eisoes wedi denu sylw mawr ac adborth gwych. Mae wedi bod yn ymdrech gymunedol wych – o weithgareddau gwau a gwnïo creadigol gan Cricieth Creadigol Creative Criccieth i dai a gerddi wedi’u haddurno i gynnig croeso cynnes i bawb sy’n ymweld â’r ardal. Byddwn yn annog pawb sy’n bwriadu teithio ac aros yn ystod wythnos yr Eisteddfod i fynd am dro i fyny ein Stryd Fawr a mwynhau’r arddangosfa unigryw hon a’r darnau celf greadigol o gwmpas y dref. Diolch hefyd i CADW am oleuo’r Castell yn goch.”

Dywedodd Angela Hughes y mae ei theulu yn rhedeg Siop Anrhegion Golden Eagle ar y Stryd Fawr: “Fel un sy’n cofio Eisteddfod Bro Dwyfor 1975 yma yng Nghricieth, ac wedi cymryd rhan yn rhai o’i gweithgareddau gyda disgyblion eraill yr ysgol leol, rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o lwyfannu’r arddangosfa hon. Mae’r brwdfrydedd dros hyn yn lleol wedi bod yn wych iawn a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.”