Arddangosfa Lle Celf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd – Brodwaith o gaeau Cricieth Map y Degwm 1839
Bydd prosiect brodwaith cymunedol Cyngor Tref Cricieth yn cael ei arddangos yn y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod eleni. Dyma’r hanes amdano:
Fel rhan o brosiect cymunedol Enwau Chwedlau a Chân Cyngor Tref Cricieth, rhoddwyd gwahoddiad i Joyce Jones – sylfaenydd Cymdeithas Brodwaith Cymru – gan Catrin Jones Clerc y Cyngor, i ail-greu map Degwm 1839 mewn brodwaith er mwyn dathlu canmlwyddiant Neuadd Goffa’r dref yn 2022. Dros gyfnod clo’r pandemig bu criw o 17 o ferched Cricieth yn gweithio’n ddiwyd am bymtheg mis rhwng Chwefror 2021 a Mai 2022 er mwyn pwytho map o 580 o gaeau ac enwau – rhai ohonyn nhw erioed wedi gwneud brodwaith o gwbl. Mae enwau pob un o’r cyfranwyr brodwaith wedi’u pwytho yn y gwaith.
Daeth y Cynghorydd a’r hanesydd lleol Robert Cadwalader o hyd i’r map ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd tipyn o waith paratoi – printio a chwyddo’r map a chael i faint allu gweithio arno a’i rhoi ar bapur graff. Aeth y gwahoddiad allan i bwy bynnag oedd yn byw yn ardal Cricieth i fod yn rhan o’r gwaith. Wnaeth y pandemig a’r cyfnod clo wneud pethe’n anoddach i drefnu.
Roedd Joyce yn bendant o’r cychwyn mai gwaith du dyle’r brodwaith fod, sef math o frodwaith oedd yn boblogaidd yn amser Harri’r Wythfed. Cael ei bwytho mewn croesbwyth a phwyth rhedeg mewn edau sidan du i greu gwahanol batrymau ydi Gwaith Du. Mae’n bwyth delfrydol i lenwi siapiau’r caeau mewn gwahanol batrymau. Defnyddiwyd 80 gwahanol liw o wyrdd a tua 350 o wahanol batrymau i’r caeau, gyda rhai ohonynt mor fach â phedwar pwyth. Defnyddiwyd ffabrig gyda gwead gwastad mewn lliw ifori.
Rhaid oedd rhannu’r gwaith i ddarnau a thorri’r patrwm yn y lle mwyaf addas a’r lle rhwyddaf i’w gysylltu’n ôl at ei gilydd, boed hynny ar hyd afon, llwybr neu ffordd. Crëwyd pecyn i bawb oedd yn cymryd rhan i gynnwys darn o ffabrig, dewis o batrymau a chasgliad o edau mewn gwahanol haenau o wyrdd. Mae’n rhyfeddol nad oes dim un o’r 580 o gaeau wedi eu llenwi gan ddefnyddio’r un patrwm a’r un lliw.
Yn ôl Joyce yr her fwyaf oedd nyddu’r holl ddarnau at ei gilydd gan sicrhau bod y gorffeniad yn llyfn. Erbyn hynny, roedd modd cyfarfod fyny a gosod y gwaith. Ar ôl cwblhau’r caeau aed ati i lunio’r allwedd i’r map – enwi pob cae ac mewn sgwariau bach ail-greu pwythau a lliw pob cae. Ehangwyd y prosiect wedyn i gynnwys ffyrdd, llwybrau ac afonydd oedd ar Fap y Degwm, a dangoswyd y cefndir amaethyddol a morwrol sydd ynghlwm â hanes Cricieth a llunio’r traeth a’i dywod a’i gregyn. Gorffennwyd wrth gynnwys adeiladau’r cyfnod ar sail map y dref gan yr artist Ffion Gwyn – fe bwythwyd y rhain mewn croesbwyth. Fel rhan o’r gwaith, bu Gwyneth Glyn a Twm Morys yn cydweithio â phlant Ysgol Treferthyr, ysgol gynradd y dref i greu penillion i gyd-fynd â’r brodwaith.
Fframiwyd y cyfanwaith gan Merfyn Lloyd a Mim Kime o Oriel y Castell, Cricieth ac mae modd prynu copïau ohono yno gyda’r elw yn mynd i Neuadd Goffa Cricieth.
Dyma fideo o’r map, a fideo Be ddwed y frân.
Enwau’r rhai fu’n brodweithio:
Joyce Jones, Linda Jones, Jill Gloster, Eirwen Jones, Gwennan Williams, Buddug Roberts, Kathleen Roberts, Catrin Jones, Margaret Griffith, Elsbeth Gwynne, Meinir Lloyd Jones, Margareth Hughes, Glenda Ifans, Mary Williams, Catrin Jones, Sue Williams, Gwenfair Hughes
Dyddiad creu: Chwefror 2021 – Mai 2022