Ysgol Gyfun Aberaeron yn y Genedlaethol

#steddfod2022

Sion Wyn
gan Sion Wyn

Bu disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron yn perfformio bore ’ma (dydd Sadwrn 30ain o Orffennaf) ym Mhentre’ Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Cafwyd ystod o berfformiadau gan gynnwys,

Catrin Edwards – Piano ac Unawd

Fearn Wood – Ffliwt

Celt Dafydd – Dawnsio Gwerin

Osian Jones – Llefaru

Rhys Roberts – Piano

Côr Iau (Blwyddyn 7 a 8) – yn canu caneuon megis ‘Yma o Hyd’, ‘Tŷ ar y Mynydd’, ‘Os oes gen i gân’ ac ‘Hawl i Fyw’

Diolch i Gyngor Sir Ceredigion am y cyfle.