Mae wedi bod yn dair blynedd hir heb ddigwyddiad mawr yng Nghymru.
Ond daeth Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a chyfle i’r miloedd heidio i Dregaron i joio, cystadlu, cymdeithasu a chefnogi.
Er bod prosiect peilot Bro360 wedi dod i ben yn gynharach eleni, mae’r gwefannau bro yn fyw o hyd, a ble gwell i ddangos popeth sy’n dda am y rhwydwaith nag ar faes y brifwyl, yng nghanol ardal un o’r gwefannau bro mwyaf llewyrchus – Caron360?
Dyma ambell uchafbwynt i’r gwefannau bro yn yr Eisteddfod…
1. Straeon newyddion da ar Caron360
Dros ddeugain o straeon ‘eisteddfodol’ wedi’u cyhoeddi gan bobol leol ardal Tregaron ar eu gwefan fro dros yr ŵyl a’r cyfnod paratoi, a’r amrywiaeth yn anhygoel! O glodfori caredigrwydd cystadleuwyr i chwilio am gerrig mawr, o dorri newyddion, i adolygiad o sioe Maes G y CFfI… a’r hoooooll straeon gwych am bentrefi’n harddu a chodi hwyl cyn yr ŵyl!
Ewch i bori trwy’r holl straeon ’steddfodol ar Caron360!
2. Wal ‘siopa’n lleol’
I helpu ymwelwyr â’r Eisteddfod ddod o hyd i fusnesau lleol i’w cefnogi, crëwyd wal fawr ar stondin Golwg yn dangos ble mae cael gafael ar gwmnïau bach annibynnol. Diolch i’r deugain busnes am ymuno â Marchnad360 a chyfrannu at ddatblygiad eich gwefannau bro.
3. Blogiau byw am brysurdeb pobol ardal Llanbed
Bob dydd! Dyna pa mor aml fuodd gohebwyr bro Clonc360 yn cyhoeddi blogiau byw o’r brifwyl. Y ffordd berffaith o ddilyn hynt a helynt trigolion lleol. Templed gwych i’w ddilyn ar gyfer unrhyw ddigwyddiad… ewch amdani!
4. Pum sgwrs fyw i helpu cymunedau
Sut mae helpu ein gilydd i hybu digwyddiadau? Beth yw effaith newyddion gan-y-bobol? Sut gall papurau a gwefannau bro gydweithio i gryfhau ei gilydd? Roedd sgyrsiau Golwg yn amrywiol iawn, ond pob un yn ceisio ein helpu i gydweithio, a manteisio ar gyfryngau digidol i gryfhau cymdeithas.
5. Llwyth o ardaloedd ‘newydd’ eisiau gwefan fro
Os gredwch chi’r map mawr o Gymru oedd ar y stondin, feddyliech chi bod dros ddeg ar hugain o ardaloedd â gwefan fro! Ond na – cyfle i bobol y tu hwnt i Arfon a Cheredigion gael bach o hwyl oedd hwn, trwy gynnig enw i wefan fro newydd i’w hardal nhw.
Mae’r sgyrsiau anffurfiol ar y stondin yn awgrymu bod y ciw o ardaloedd hoffai ymuno â’r rhwydwaith yn un hir…
6. Rhaglen o ddigwyddiadau oddi-ar-y-maes
Daeth Calendr360 yn lle i bobol weld pa ddigwyddiadau ‘answyddogol’ oedd mlaen – ar stondinau cymdeithasau, yn y dref ac ar draws Ceredigion.
7. Cyrraedd y miloedd gydag atodiad print Caron360
Croeso cynnes i Dregaron – wrth gyrraedd dyma’r carafanwyr yn cael atodiad print arbennig am ddim, oedd yn crynhoi straeon, digwyddiadau a busnesau oddi ar Caron360.
8. Gohebwyr newydd yn cael hwyl arni
Bu dros ddeugain o ohebwyr yn cyfrannu at eu gwefannau bro yn ystod yr wythnos, ond yn fwy cyffrous byth bu sawl un yn creu am y tro cyntaf. Maen nhw ellach wedi ymuno â’u criw lleol er mwyn gohebu’n rheolaidd ar straeon lleol.
9. Lansio’r botwm ‘cefnogi’
I bawb sydd eisiau helpu eich gwefan fro ond sydd ddim am gyfrannu straeon, mae’r ateb perffaith yma. O nawr mlaen, gallwch gefnogi datblygiad y rhwydwaith trwy gyfrannu £2 y mis yn unig!
10. Pawb moyn bod yn Gardi!
Aeth neb o’r stondin heb ennill gwobr fach… rhai’n cyfrif eu hunain yn ‘frodor’ oedd yn falch o’u bro, eraill yn mynnu eu bod yn Gardis – naill ai am y dydd, neu’n 100% Cardi!
Ymlaen i Lŷn ac Eifionnydd!