‘Wythnos’ newydd sbon i ddathlu straeon bro

Bydd yr Wythnos Straeon Lleol yn digwydd ar y gwefannau bro rhwng 28 Tachwedd a 4 Rhagfyr eleni

Lowri Jones
gan Lowri Jones
lluniau-gwefannau-bro

Ddiwedd mis Tachwedd bydd y gwefannau bro yn dathlu’r cyfoeth o bethau sy’n bwysig yn ein cymunedau.

Bydd yr Wythnos Straeon Lleol (28 Tach – 4 Rhagfyr) yn gyfle i bawb rannu stori am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw – i ddathlu bod lle i bob math o straeon lleol gan bobol leol ar wefannau Bro360.

Oes pwnc llosg yn Llanbêr sy’n haeddu sylw? Oes clwb pêl-droed ger Aberystwyth yn gwneud yn dda? Oes cyfle i gael adolygiad o ddrama, blog byw o ’steddfod, neu gyfweliad fideo ag un o’ch hoff fusnesau bach?

Beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, mae croeso i chi ei rannu ar eich gwefan fro.

Ac mae’n hawdd: dim ond Ymuno i greu cyfrif, yna Creu stori. Bydd golygyddion eich gwefan fro yn darllen eich stori cyn ei chyhoeddi’n fyw i’r byd!

Mae gan 9 ardal eu gwefan straeon lleol ar hyn o bryd, ac mae mwy ar y ffordd yn ne Ceredigion yn fuan:

Ewch ati i gyfrannu eich stori, neu hyrwyddo digwyddiad lleol yn y calendr – mae’n ffordd wych o ddathlu a rhannu gyda thrigolion lleol, a chyrraedd cynulleidfa genedlaethol trwy golwg360.