Ddiwedd mis Tachwedd bydd y gwefannau bro yn dathlu’r cyfoeth o bethau sy’n bwysig yn ein cymunedau.
Bydd yr Wythnos Straeon Lleol (28 Tach – 4 Rhagfyr) yn gyfle i bawb rannu stori am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw – i ddathlu bod lle i bob math o straeon lleol gan bobol leol ar wefannau Bro360.
Oes pwnc llosg yn Llanbêr sy’n haeddu sylw? Oes clwb pêl-droed ger Aberystwyth yn gwneud yn dda? Oes cyfle i gael adolygiad o ddrama, blog byw o ’steddfod, neu gyfweliad fideo ag un o’ch hoff fusnesau bach?
Beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, mae croeso i chi ei rannu ar eich gwefan fro.
Ac mae’n hawdd: dim ond Ymuno i greu cyfrif, yna Creu stori. Bydd golygyddion eich gwefan fro yn darllen eich stori cyn ei chyhoeddi’n fyw i’r byd!
Mae gan 9 ardal eu gwefan straeon lleol ar hyn o bryd, ac mae mwy ar y ffordd yn ne Ceredigion yn fuan:
- DyffrynNantlle360, Caernarfon360, BangorFelin360, BroWyddfa360 ac Ogwen360 yn ardal Arfon…
- a BroAber360, Caron360, Aeron360 a Clonc360 yng Ngheredigion.
Ewch ati i gyfrannu eich stori, neu hyrwyddo digwyddiad lleol yn y calendr – mae’n ffordd wych o ddathlu a rhannu gyda thrigolion lleol, a chyrraedd cynulleidfa genedlaethol trwy golwg360.