Ein tro ni yw e heddiw i gyflwyno hanes i chi am y Teilwr bach o Ddihewyd a oedd yn 3 troedfedd, 8 modfedd o daldra! Dyma pam cafwyd yr enw y Teilwr bach.
Ei enw oedd John Harries ac roedd yn briod â Margaret Harries a oedd yn 5 troeddfedd 5 modfedd!
Roedd ganddynt 9 o blant. Bob dydd, roedd John yn gweithio’n galed o flaen y ffenest yn creu dillad ar gyfer pobol y pentref.
Yn y nos, roedd y stori’n newid…
Roedd John yn hoff iawn o fynd i’r dafarn lleol… ac roedd e’n hoff o gecran gyda dynion oedd yn fwy nag e!
Bob nos, roedd yn rhaid Margaret ei wraig gario adre yn ei ffedog gan ei fod wedi cael gormod i’w yfed! Roedd hi’n llusgo John wrth ei glust ac yna yn ei rolio lan yn y ffedog cyn iddi nw adael am adref!
Fe farwodd yn 1893 yn 78 oed. Fe’i gladdwyd yn y fynwent yn Eglwys St Vitalis, Dihewyd.