Teigr yn y Bocs – prosiect Cynefin Ysgol Llechryd

Byddwch chi wedi clywed am Fwysfil Bont neu’r Eliffant yn y Talbot, ond beth am y Teigr yn Llechryd?

gan Carys Lloyd-Jones
IMG_0180-Copy
Screenshot_20220607-103329_Twitter
Screenshot_20220607-103352_Twitter
Screenshot_20220607-103352_Twitter-1

Mae disgyblion ysgol Llechryd wedi mwynhau clywed am anturiaethau Capten Charles Colby wrth iddo ymladd mas yn yr India yn 1852.

Er bod hon yn stori drasig, mae tro trwstan annisgwyl ar ddiwedd y stori sy’n ei gwneud yn stori boblogaidd iawn ymysg y disgyblion.

Ewch ati i wrando ar ddisgyblion yr ysgol yn adrodd stori’r Teigr yn y Bocs. Mae’r lluniau yn eu dangos nhw’n brysur wrth eu gwaith ac yn ymweld â’r bedd enwog yn eglwys Maenordeifi.

Diolch i griw Siarter Iaith Sir Ceredigion am eu gweledigaeth ac i gwmni CISP MULTIMEDIA am rannu ei arbenigedd gan roi’r cyfle i ddisgyblion Ysgol Llechryd ddysgu mwy am eu cymuned. Roedd yn gyfle iddynt ddangos eu doniau mewn ffyrdd gwahanol a chael bod yn haneswyr, yn arlunwyr ac yn storïwyr.

Cofiwch ddod i weld ein stori yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, a beth am ddod draw i bentref Llechryd ar lan afon Teifi i glywed mwy am y ‘Teigr yn y Bocs’ ac i brofi naws hynafol eglwys Maenordeifi?