Swyddi newydd: Ydych chi eisiau rhoi hwb i ddatblygiad y gwefannau bro?

Mae Golwg yn chwilio am bobol frwdfrydig i helpu mwy o gymunedau i gynnal gwefannau straeon lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae Golwg yn chwilio am bobol egnïol sy’n frwd dros newyddion lleol, i helpu i ymestyn y rhwydwaith gwefannau bro i ardaloedd newydd.

Dyma’r dair swydd newydd a’u manylion:

Felly, os ydych chi’n berson pobol sydd â sgiliau cyfathrebu da, ag adnabyddiaeth dda o un o’r ardaloedd, ac yn frwd dros ein cymunedau a newyddion lleol, mae’n siŵr bod yma swydd addas i chi.

Ymunwch â’r tîm er mwyn parhau â’r chwyldro newyddion lleol yn y Gymraeg!

Dyddiad cau ymgeisio yw 23 Medi 2022.

Mae’r datblygiad yma’n bosib diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fydd yn galluogi Golwg i barhau i roi cefnogaeth i’r 9 gwefan fro presennol yn Arfon a gogledd Ceredigion, a darparu gwasanaeth ysgogi a galluogi mewn ardaloedd sy’n newydd i’r cynllun.