“How do you survive?”… Wel, trwy fusnesau lleol!

Busnesau annibynnol, cydweithio a manteisio ar ddatblygiadau digidol sydd ei angen er mwyn cynnal trefi Ceredigion.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Screenshot-2022-08-16-at-10.53.44

Clive Davies, Cynghorydd Tref Aberteifi a Sir Ceredigion, Angharad Morgans, Perchennog Siop Inc Aberystwyth ac Arwel Jones, Cynghorydd Tref Tregaron yn trafod posibiliadau o sut i gryfhau’r cylch economi lleol yn Aberteifi, Aberystwyth ac Aberteifi ac yn ehangach yng Ngheredigion.

MARCHNAD360

Mae Marchnad360 yn ofod penodol i fusnesau lleol Cymru hyrwyddo eu busnesau drwy gyfrwng y Gymraeg ar blatfform digidol gyda Chymru gyfan. Ymunwch â rhwydwaith Marchnad360 heddiw.

Busnesau annibynnol, cydweithio a manteisio ar ddatblygiadau digidol sydd ei angen er mwyn cynnal trefi Ceredigion.

Mewn sgwrs fyw ar stondin Golwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Gwener 5 Awst, buodd Clive Davies, Cynghorydd Tref Aberteifi a Sir Ceredigion, Angharad Morgans, Perchennog Siop Inc Aberystwyth ac Arwel Jones, Cynghorydd Tref Tregaron yn trafod posibiliadau o sut i gryfhau’r cylch economi lleol yn Aberteifi, Aberystwyth ac Aberteifi ac yn ehangach yng Ngheredigion.

Busnesau annibynnol yn cynnal trefi Ceredigion

Mae’r stryd fawr yn Aberteifi a Thregaron bellach wedi’u hawlio gan fusnesau annibynnol. Mae gan Aberteifi dros 100 o fusnesau annibynnol yn y dref, gyda 11 newydd wedi’u hagor ers y cyfnod clo. Heblaw am Sbar, busnesau lleol sydd hefyd yn llenwi tref Tregaron.

“Peth da am beidio cael lot o chains, yw ei bod yn gorfodi pobol i fentro” a hynny drwy siopa neu fwyta gan fusnesau annibynnol, medd Clive. “Er enghraifft, gofynnodd twristiaid i mi unwaith “So where is your nearest McDonalds”, a wedes i “its an hour that way to Aberystwyth or an hour that way to Haverfordwest.” Chi’n gwybod be ddaethon nhw nol a dweud wrtha i? “How do you survive?” a atebes i “quite well actually, we have 7 caffe’s in Cardigan, take your pick!”

Busnesau annibynnol sydd bellach yn cynnal tref Aberystwyth.

“Er bod y stryd fawr ei hunan yn dioddef, os ewch chi ar hyd y strydoedd bach, ma’ na lwythi o siope annibynnol” meddai Angharad.

Eglurodd Clive bod Aberteifi ar hyn o bryd yn ailwneud y farchnad leol, gan obeithio y bydd pobl yn mentro i greu busnesau, a sefydlu eu hunain yn y farchnad, ac wedyn ehangu ar y stryd fawr.

“Fynna ddechreuodd Crwst, er enghraifft, gyda stondin yn y farchnad, ac erbyn heddi ma nhw ar y stryd fawr ac yn cyflogi dros 50 o bobol!”

Ond y gwahaniaeth gyda stryd fawr Aberystwyth eglurodd Angharad, yw ei bod hi’n dref tipyn yn fwy ac felly mae’r unedau, rhent a threth yn fwy, sy’n golygu bod y stryd fawr “allan o afael busnesau bach annibynnol”’

 

Aberystwyth yn dirywio

“Er bod 90 o fusnesau annibynnol yn Aberystwyth, o gymharu gydag Aberteifi, sdim beth ti’n galw yn ‘civic pride’ i gal yn Aberystwyth” meddai Angharad.

“Dyw Aberystwyth ddim gwerth i’w gweld, ti’n mynd i Aberteifi ac mae’r siope i gyd gyda blode tu allan, ac mae’n nhw yn glanhau’r strydoedd… ma’ rhywbeth bach sen i yn dweud yn lacking yn Aberystwyth.”

Yr allwedd i adfywiad Aberteifi

Data digidol sydd wedi adfywio Aberteifi o fod yn ‘dwll o le’ i fod yn dref sydd ‘werth i’w gweld’.

Trwy roi system di-wifr mewn trwy’r dre a chreu ap am Aberteifi, mae pob siop yn cael ystadegau am faint o bobl sy’n dod mewn i’r dre, faint o amser mae pobl yn aros yn y dref, ac o ble mae’r ymwelwyr yn dod.

A tHrwy’r dechnoleg yma, “wedd e’n rhoi hyder i fusnesau i sefydlu a newid y ffordd mae nhw’n gweithio, ac ers hynny mae siope newydd wedi agor” meddai Clive.

Mae’r data hefyd yn werthfawr wrth asesu ble mae’r bylchau.

Er enghraifft, flwyddyn nesa ma siop bridal yn agor yn y dref, ac mae’r ripple effect o gael siop fel hyn yn mynd i gal effaith ar y siop flodau, y siopau dillad menywod a’r caffis i gyd, eglurodd Clive.

“A ma’ fe yn mynd i ddenu pobl o bell, achos sdim lot ohonyn nhw i gael” ychwanegodd Angharad.

 

Tregaron – Y Gât i Fynyddoedd Elenydd

Mae Tregaron, fel Aberteifi, wedi gosod Wi-fi yn y dref er mwyn casglu data ar sail eu hymwelwyr.

“Ry’ ni yn gweld yn gyffredinol bod lot o gerddwyr a beicwyr yn ymweld â’r dref, ond ry’ ni eisiau casglu data pellach er mwyn medru marchnata’r dref fel y ‘Gât i Fynyddoedd y Cambria’” eglurodd Arwel.

“Ond cyn i ni fedru marchnata Tregaron fel hyn, mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau fod gyda ni’r pethe sylfaenol yn y dref, ee. llefydd aros rhad i’r bobl sy’n teithio ar gefn beics yn ogystal â siope trwsio beics.”

“Unwaith fyddwn ni’n cael yr ystadegau am bwy sy’n ymweld â Thregaron, gallwn ni ddefnyddio hynny er mwyn ffocysu ein gweledigaeth ni” eglurodd Arwel.

 

Cyfryngau yn agor y drws at ryngweithio, gan gryfhau’r cylch economi sirol

Mae bunkhouse yn agor yn Nhregaron, a hynny er mwyn cynnig lle rhad i feicwyr a cherddwyr aros. Mae Aberteifi hefyd yn agor yr un math o wasanaeth, a thrwy’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol gwelwyd posibilrwydd i gydweithio.

“Gallet ti gynllunio a marchnata taith i [ymwelwyr] aros yn Aberteifi ac yna i aros yn Nhregaron. Gallet ti hefyd glymu mewn iddo fe rhyw ddêl ychwanegol… e.e, os ewch chi fan hyn, gewch chi 10% bant pan ewch chi fan hyn.”

Trwy rwydweithio trefi gyda’i gilydd, gwelwyd potensial ar gyfer creu cynllun sy’n uno busnesau lleol ac sy’n gwerthu elfennau unigryw am bob tref.

Esboniodd Angharad bod y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn hanfodol i’w busnes hithau, a bod siopau annibynnol tref Aberystwyth wedi dechre cwrdd fel grŵp i drafod pethe, a’r gobaith yn y dyfodol yw adeiladu ar hyn er mwyn hyrwyddo busnesau fesul grŵp, er mwyn denu ystod mwy eang i’r dref.

“Angen i’r cwbl fod yn yr un lle”

Wrth i fusnesau farchnata eu hunain a rhyngweithio gyda’i gilydd i farchnata yn ehangach, pwysleisiwyd yr angen i’r ‘cwbl fod yn yr un lle’.

Un ateb i’r angen hwn yw Marchnad360. Mae Marchnad360 yn ofod penodol i fusnesau lleol Cymru hyrwyddo eu busnesau drwy gyfrwng y Gymraeg ar blatfform digidol gyda Chymru gyfan.

Ymunwch â rhwydwaith Marchnad360 heddiw.