Sextorion: Thema newydd yn nofel Geraint

Nofel un frawddeg Geraint Lewis yn trafod thema newydd

Gwasg Carreg Gwalch
gan Gwasg Carreg Gwalch
Untitled-design-22

“Nofel graff sy’n torri tir newydd”. Dyna eiriau un o feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 am nofel ddiweddaraf Geraint Lewis o Dregaron, Lloerig. Mae’r nofel, a ddaeth yn ail agos am y wobr yn ymdrin ag ymateb mam i hunanladdiad ei mab un ar bymtheg oed.

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, ond erbyn hyn mae’n byw yn Aberaeron gyda’i wraig, Siân.

Mae’n awdur toreithiog, ond mae ei nofel ddiweddaraf yn torri tir newydd mewn sawl ffordd. Yn ogystal â bod yn nofel un frawddeg o’r dechrau i’r diwedd, mae’n ymdrin â mater newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg, sef Sextortion.

Disgrifir Sextortion fel y drosedd o fygwth rhyddhau deunydd preifat a sensitif oni bai bod yr unigolyn dan fygythiad yn rhoi arian. Cyfuniad o’r geiriau sex ac extortion yw’r term.

Mae’r nofel yn mynd â’r darllenydd yn ddwfn i feddwl Mari, mam yn ei phumdegau sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r hyn a symbylodd ei mab, Kevin, i grogi ei hun. Mae’r fam yn datgelu bod ei mab mewn dyled o £5,000 oherwydd Sextortion.

Mae Geraint wedi datgelu bod y syniad gwreiddiol ar gyfer y nofel wedi dod o’r myrdd o erthyglau papur newydd am y nifer cynyddol o ddynion ifanc sy’n cyflawni hunanladdiad.

Dywedodd:

“O’n i’n meddwl ei fod e’n faes pwysig i ddelio ag ef yn storïol.

“Hoffwn feddwl y bydd y darllenydd yn dod i ddirnad pa mor fregus yw bywyd, yn enwedig i’r to iau yn yr oes ry’n ni’n byw ynddi.”

Nofel un frawddeg yw Lloerig, gyda’r awdur yn dewis peidio ag atalnodi. Pan ofynnwyd iddo pam y dewisodd wneud hynny, ateb Geraint oedd “Pam lai?”

Ymhelaethodd: 

“Yn raddol dwi wedi canfod apêl y ffurf o ysgrifennu llif yr ymwybod, lle mae meddwl y prif gymeriad yn ehedeg yma ac acw yn ddi-stop.

“Bu’n broses hir o dyfu’n naturiol o ysgrifennu ymsonau theatr a monologau radio, ond mae’r arddull yn apelio’n fawr ataf.

“Mantais fawr y ffurf yw eich bod chi a’r darllenydd yn gallu mynd yn syth i feddwl y cymeriad.”

Roedd Elwyn Jones yn un o gyd-feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2021. Dywedodd:

“Mae darllen am farwolaeth hogyn 16 oed yn heriol ond yn nwylo awdur mor fedrus mae sensitifrwydd y dweud yn gyfle i archwilio nifer o themâu grymus.”

Mae Lloerig ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg a gwefan y Cyngor Llyfrau.