Prynhawn Agored – Garth Newydd

Menter newydd yn agor yn Llanbed i groesawu dysgwyr Cymraeg a siaradwyr di hyder

Nia Llywelyn
gan Nia Llywelyn

Bydd cyfle i bawb ddod i weld y cynlluniau cyffrous sy’ gyda ni ar gyfer adeilad Garth Newydd ar Stryd y Bont, Llanbed dydd Sadwrn yma rhwng 4-7 o’r gloch.

Llety ar gyfer codi hyder dysgwyr Cymraeg, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Ry’n ni’n teimlo bod cyfraniad siaradwyr Cymraeg lleol i lwyddiant y cynllun yn mynd i fod yn allweddol.

Gweledigaeth paned.cymru yw’r fenter. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â codihyder@gmail.com neu ewch i wefan paned.cymru.

Mae paned.cymru eisioes wedi bod yn trefnu cyrsiau llwyddiannus yn Nyffryn Aeron ers haf 2021 a dau mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Llanbed yn mis Mai a Mehefin eleni. Mae’r cyrsiau eisioes wedi cael cydweithrediad unigolion, busnesau a chwmniau lleol