Plasty Llanerchaeron: prosiect Cynefin Ysgol Ciliau Parc

Y disgyblion yn creu comig am hanes Plasty Llanerchaeron

Ffion Evans
gan Ffion Evans

Mae plant Dosbarth Glynaeron, Ysgol Ciliau Parc sef blynyddoedd 5 a 6 wedi mwynhau cydweithio gyda Chwmni CISP Multimedia er mwyn adrodd hanes Plasty Llanerchaeron.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ a drefnwyd gan swyddogion Siarter Iaith Ceredigion gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Mae pob un o Ysgolion y sir wedi creu tudalen comig yn dynodi ryw hanesyn lleol o’u hardal ac mi fydd y comig cyfan ar werth yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bydd y tudalennau hefyd yn cael eu harddangos fel paneli mawr fetel ar Faes yr Eisteddfod ym mis Awst.

Bu plant Ysgol Ciliau Parc yn ymchwilio i hanes Plasty Llanerchaeron, ac  yna’n gweithio mewn grwpiau i greu lluniau a darnau o wybodaeth i’w cynnwys yn y comig. Penderfynodd y plant ar y fersiwn i’w anfon ymlaen at CISP Multimedia ac erbyn hyn mae’r gwaith wedi ei droi’n ddarlun digidol proffesiynol.

Yn dilyn yr Eisteddfod bydd panel mawr o’n tudalen comig yn dod i’r ysgol er mwyn i ni ei roi i fyny yn y pentref.

Ewch draw i’r Eisteddfod i weld ein gwaith.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill (Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi))

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffor

12:00, 20 Ebrill (Prynhawn a hwyr: Oedolion £3.00 Plant 50c. Tocyn dydd £5.00)