Pleidlais ‘barn y bobol’ Bro360 ar agor

Cyhoeddi’r wyth stori – un o bob gwefan fro – sy’n mynd benben am brif wobr Bro360 eleni

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae blogiau byw, cyfweliadau fideo a theyrnged i berson lleol adnabyddus ymhlith rhestr fer Barn y Bobol yng Ngwobrau Bro360 eleni.

Dathliad o gyfraniad pobol ar lawr gwlad i’w gwefan fro yw Gwobrau Bro360, fydd yn cael eu cynnal ddydd Gwener 28 Ionawr.

Mae rhestr fer 9 o’r categorïau eisoes wedi’u cyhoeddi, a heddiw dyma ddatgelu pa straeon lleol gan bobol leol sy’n brwydro am y brif wobr.

Barn y bobol

Dyma’ch cyfle chi ddewis enillydd gwobr barn y bobol, wrth bleidleisio am eich hoff stori ar draws y gwefannau bro yn ystod 2021.

Yr wyth yn y ras yw:

Pleidleisiwch fan hyn heddiw!

 

Mae’n agored i bawb, a’r dyddiad olaf i fwrw eich pleidlais yw 12pm ddydd Gwener 28 Ionawr.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm y noson honno.

Deg categori amrywiol

Mae sawl categori newydd eleni, sy’n cynnwys Blog byw y flwyddyn, Digwyddiad Gŵyl Bro y flwyddyn, a’r esiampl gorau o gydweithio rhwng y wefan a’r papur bro.

Yn ogystal, bydd cyfle eleni eto i ddathlu rhai o’r cyfranwyr ifanc disgleiriaf, a’r straeon sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r gymuned leol.

Byddwn yn cyhoeddi’n fuan pryd a ble y bydd enillydd pob categori’n cael eu datgelu – ymunwch â Bro360 ar draws y cyfryngau lleol a chenedlaethol ar y dydd!