Mae blogiau byw, cyfweliadau fideo a theyrnged i berson lleol adnabyddus ymhlith rhestr fer Barn y Bobol yng Ngwobrau Bro360 eleni.
Dathliad o gyfraniad pobol ar lawr gwlad i’w gwefan fro yw Gwobrau Bro360, fydd yn cael eu cynnal ddydd Gwener 28 Ionawr.
Mae rhestr fer 9 o’r categorïau eisoes wedi’u cyhoeddi, a heddiw dyma ddatgelu pa straeon lleol gan bobol leol sy’n brwydro am y brif wobr.
Barn y bobol
Dyma’ch cyfle chi ddewis enillydd gwobr barn y bobol, wrth bleidleisio am eich hoff stori ar draws y gwefannau bro yn ystod 2021.
Yr wyth yn y ras yw:
- Blog byw Gŵyl Bro Y Felinheli, ar BangorFelin360
- Fideos taith gerdded Dana Edwards, ar BroAber360
- Gwrachod, Beyonce, ffeministiaeth, magu a mwy, ar BroWyddfa360
- Blog byw Gwersyll Haf Rygbi’r Cofis, ar Caernarfon360
- Blog byw Sioe Tregaron, ar Caron360
- Cyfweliad â phrif lenor yr Urdd, Sioned Howells, ar Clonc360
- Cofio Maldwyn Rhafod, ar DyffrynNantlle360
- Cadw strydoedd Bethesda yn lân, ar Ogwen360
Pleidleisiwch fan hyn heddiw!
Mae’n agored i bawb, a’r dyddiad olaf i fwrw eich pleidlais yw 12pm ddydd Gwener 28 Ionawr.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm y noson honno.
Deg categori amrywiol
Mae sawl categori newydd eleni, sy’n cynnwys Blog byw y flwyddyn, Digwyddiad Gŵyl Bro y flwyddyn, a’r esiampl gorau o gydweithio rhwng y wefan a’r papur bro.
Yn ogystal, bydd cyfle eleni eto i ddathlu rhai o’r cyfranwyr ifanc disgleiriaf, a’r straeon sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r gymuned leol.
Byddwn yn cyhoeddi’n fuan pryd a ble y bydd enillydd pob categori’n cael eu datgelu – ymunwch â Bro360 ar draws y cyfryngau lleol a chenedlaethol ar y dydd!