*Ping!* Mae gig mlaen lawr y ffordd nos Wener – oeddech chi’n gwybod?

Cyfle i bawb ymuno yn y fenter i gyd-gynllunio ap Cymreig unigryw

Lowri Jones
gan Lowri Jones

*PING!*

*Mae gêm gwpan yn y clwb lleol ddydd Sadwrn – oeddech chi’n gwybod?*

Yn dilyn covid mae dod â phobl ynghyd yn dipyn o her. Ond dyna brif nodwedd ein diwylliant, ein ffordd-o-fyw. Cyd-ganu. Cyd-wrando a gwylio. Cyd-greu. 

Wrth ddod allan o Covid, mae wedi dod yn amlwg bod angen ffordd syml ac effeithiol o gysylltu pobol sy’n gwneud i bethau ddigwydd (prosiectau / perfformiadau / digwyddiadau) â phobol sydd eisiau cymryd rhan (cyfranogwyr / perfformwyr / cynulleidfa).

Ai ‘ap digwyddiadau’ yw’r ateb?

Yn steddfod Tregaron, roedd llu o fudiadau’n frwdfrydig iawn dros y syniad o greu ap i ateb yr angen allweddol hwn. 

Fersiwn o calendr360.cymru sy’n rhoi “ping!” pan fydd rhywbeth o ddiddordeb i chi mlaen yn lleol, efallai?

Helpwch ni i ffindio mas ai ‘ap digwyddiadau’ yw’r ateb  – trwy lenwi’r holiadur byr yma (erbyn dydd Iau 15 Medi 2022).