*PING!*
*Mae gêm gwpan yn y clwb lleol ddydd Sadwrn – oeddech chi’n gwybod?*
Yn dilyn covid mae dod â phobl ynghyd yn dipyn o her. Ond dyna brif nodwedd ein diwylliant, ein ffordd-o-fyw. Cyd-ganu. Cyd-wrando a gwylio. Cyd-greu.
Wrth ddod allan o Covid, mae wedi dod yn amlwg bod angen ffordd syml ac effeithiol o gysylltu pobol sy’n gwneud i bethau ddigwydd (prosiectau / perfformiadau / digwyddiadau) â phobol sydd eisiau cymryd rhan (cyfranogwyr / perfformwyr / cynulleidfa).
Ai ‘ap digwyddiadau’ yw’r ateb?
Yn steddfod Tregaron, roedd llu o fudiadau’n frwdfrydig iawn dros y syniad o greu ap i ateb yr angen allweddol hwn.
Fersiwn o calendr360.cymru sy’n rhoi “ping!” pan fydd rhywbeth o ddiddordeb i chi mlaen yn lleol, efallai?
Helpwch ni i ffindio mas ai ‘ap digwyddiadau’ yw’r ateb – trwy lenwi’r holiadur byr yma (erbyn dydd Iau 15 Medi 2022).