Nofel graffig yr awdur o Lanfarian

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng tad a merch

Gwasg Carreg Gwalch
gan Gwasg Carreg Gwalch
Untitled-design-7

Wedi i’r ddrama lwyfan, Gwlad yr Asyn gael derbyniad rhagorol yn ystod taith drwy Gymru yn 2021 ac mewn perfformiadau yn Theatr ar y Maes yn Nhregaron eleni, mae’r awdur Wyn Mason wedi cydweithio gyda’i ferch, Efa Blosse Mason i greu nofel graffig afaelgar.

Cafodd Wyn ei fagu ar fferm yn Llanfarian, ger Aberystwyth, ond mae’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Daw yn wreiddiol o gefndir Celf Gain, ond yna gweithiodd ym maes teledu fel cyfarwyddwr llawrydd cyn dod yn ddarlithydd prifysgol. Enillodd ei ddrama lwyfan gyntaf, Rhith Gân, Fedal Ddrama yr Eistedd fod Genedlaethol yn 2015. Erbyn hyn, mae’n rhannu ei amser rhwng bod yn awdur a chyd redeg cwmni theatr Os Nad Nawr.

Mae Gwlad yr Asyn yn nofel graffig am asyn dof sy’n dioddef o hunanddelwedd gam. Wedi cael ei magu mewn modd gyfan gwbl ddynol, mae’n uniaethu’n llwyr â bodau dynol. Felly, er bod ganddi gorff asyn, mae ganddi feddylfryd dynol a chreda bod asynnod eraill yn greaduriaid twp ac anwaraidd! Ond, fel canlyniad i ddigwyddiadau’r stori, daw i gwestiynu ei hunaniaeth.

Yn ôl Wyn,

“Un o’r prif bethau oedd creu’r cyfle i gyd weithio â fy merch, Efa Blosse Mason.

Mae hi’n animeiddwraig ac yn ddylunydd, ac wedi bod yn darllen nofelau graffig yn gyson ers roedd hi’n blentyn. Trwyddi hi des i ar draws nofelau graffig yn y lle cyntaf.”

Mae Efa Blosse Mason yn artist/animeiddwraig o Gaerdydd, ac yn ferch i Wyn. Astudiodd yn Ysgol Animeiddio Bryste. Ers graddio yn 2018, mae wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau animeiddio, gan gynnwys fideos miwsig, ffilmiau byrion barddoniaeth a rhaglenni teledu i blant. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilm Cwch Deilen fel rhan o gynllun Beacons, Ffilm Cymru, a gafodd ei darlledu ar BBCiPlayer, a Channel 4. Mae ei gwaith yn tueddu i ganolbwyntio ar thema byd natur a straeon LHDTC+.

Aeth Wyn yn ei flaen:

“Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu dramâu llwyfan, ond ar ôl gweld fy nrama Gwlad yr Asyn yn cael ei pherfformio, ces i’r syniad o’i haddasu’n nofel graffig.

Awgrymais hyn i Efa, ac ro’n i wrth fy modd pan gytunodd hi i ddylunio’r llyfr!

‘Dyn ni wedi bod yn darlunio a chreu straeon gyda’n gilydd o’r dechrau, ac mae’n wych bod ni nawr yn medru gwneud hynny ar y cyd yn broffesiynol.

Mae’n stori am asyn ifanc o’r enw Ari a gafodd ei magu ar stad o dai, yn union fel petai hi’n berson.

O ganlyniad, mae’n meddwl bod hi’n sbesial, yn well nag asynnod eraill.

Mae ei pherchnogion newydd am iddi fod yn ddylanwad da ar asyn afreolus o’r enw Cal, a gafodd ei fagu’n wyllt ar ben mynydd.

I’r gwrthwyneb â hi, mae Cal yn ddrwgdybus o fodau dynol ac felly’n gwrthod cael ei ddofi.”

Mae Gwlad yr Asyn ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg gwalch.cymru a www.gwales.com.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)