Daw Gareth Evans o Benparcau, Aberystwyth, ond mae wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd bellach wedi degawd dramor yn Sbaen a’r Almaen. Cychwynnodd ei yrfa gyda Radio Cymru, cyn troi at ysgrifennu ar gyfer y teledu, yn bennaf ar gyfer Pobol y Cwm. Y Ferch o Aur yw ei drydedd nofel.
Ail ran trioleg yw Y Ferch o Aur.
Cyhoeddwyd Y Pibgorn Hud yn 2020, stori am ferch 12 oed o’r enw Ina, o Went, sydd ar fin treulio cyfnod yn fel plentyn maeth yn llys y brenin Caradog yng Nghaersallog (Salisbury heddiw) pan mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd ac mae’n gorfod ffoi. Ar ôl sawl her ac anffawd, mae Ina’n glanio ym Mrythonia yng ngogledd penrhyn Sbaen ac yn gorfod cychwyn o’r newydd. Mae’r ail lyfr, sef Y Ferch o Aur, yn canolbwyntio ar sut mae Ina, ac yn arbennig ei chwaer maeth Ebba, yn dygymod â bywyd yno a disgwyliadau cynyddol eu teulu, ei ffrindiau, a’r gymuned, a hwythau bellach yn 14 oed.
Yn ôl Gareth,
“Yr hyn wnaeth fy ysbrydoli i ysgrifennu’r drioleg oedd darganfod drwy hap tra ar fy ngwyliau yng ngogledd Sbaen fod gan y Brythoniaid – yr hen Gymry – wladfa o ryw fath yn Galisia yn yr oesoedd canol cynnar iawn.
Doeddwn i erioed wedi clywed am y wladfa hon – Britonia – ac, erbyn deall, does dim llawer o bobl eraill wedi clywed amdani chwaith. Roedd yr holl beth yn ymddangos mor hynod, mi daniodd fy nychymyg.”
Bu’r gwaith ymchwilio i’r cefndir hanesyddol yn gryn sialens iddo.
“Yn gyntaf am fod yr union gyfnod dewisais i osod y stori yn un annelwig iawn o ran ffynonellau hanesyddol a thystiolaeth archeolegol.
Yn ail, am mai ychydig iawn sydd wedi’i ysgrifennu am Frythonia – dim yn y Gymraeg hyd y gwn i, a fawr dim yn y Saesneg chwaith.
Gan imi fyw yn Sbaen am gyfnod, mae fy Sbaeneg yn ddigon da i ddarllen yr iaith, felly roedd gen i fantais yn hynny o beth.
Hefyd, ro’n i’n ffodus iawn i gael help hael nifer o arbenigwyr yn Sbaen wrth wneud yr ymchwil, a chael sawl sesiwn Zoom hynod o ddiddorol a defnyddiol.”
Mae Y Ferch o Aur ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.